Back
Ymchwil arloesol i fêl arbennig yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Caerdydd

Mae gwyddoniaeth yn ysbrydoli disgyblion ysgol Caerdydd wrth iddyn nhw gefnogi ymchwil arloesol i'r modd y gall peillio rhai planhigion arwain at ddatblygu cyffuriau i drin cyflyrau meddygol difrifol. 

Mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Willmott Dixon, mae Prifysgol Caerdydd wedi dechrau rhaglen ymestyn allan flaengar i ysgolion gyda'r nod o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymreig, hyrwyddo dilyn pynciau STEM a helpu i gadw Caerdydd yn ddinas werdd a braf.

Fel rhan o'r cydweithio cyffrous hwn, bydd Apothecary Bees, dan arweiniad yr Athro Les Baillie o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn cyflwyno'r project Pharmabees arobryn i ddisgyblion a'i nod fydd annog cynhyrchu mêl arbennig a helpu ymchwil drwy osod cychod gwenyn o amgylch y ddinas. Bydd disgyblion ysgol yn dysgu am bwysigrwydd gwenyn a pheillwyr eraill, priodweddau meddygol mêl a'i botensial i drin arch-fygau ysbyty sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau. 

Hyd yma mae naw cwch gwenyn wedi eu lleoli mewn ysgolion yng Nghaerdydd, gan danlinellu pwysigrwydd y creaduriaid hyn mewn amgylchedd drefol wrth helpu i sefydlu dinas sy'n croesawu gwenyn. Cefnogir y fenter â gweithgareddau priodol i'r oed a deunyddiau addysgu sy'n cwmpasu'r cyfnodau allweddol, er mwyn ysbrydoli ac annog myfyrwyr ifanc a'u rhieni i drawsnewid eu cymdogaethau yn lleoedd sy'n rhoi mwy o groeso i wenyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Prif nod y project partneriaeth cyffrous hwn yw helpu ein cenhedlaeth iau i gael eu hysbrydoli a'u hannog gan wyddoniaeth. Yn benodol, mae'r cipolwg a geir drwy gyfrwng y project PharmaBees yn galluogi ein plant i ddeall pwysigrwydd peillwyr a bioamrywiaeth drwy gynnig profiad ymarferol y gallan nhw ei ddeall a dysgu oddi wrtho. Gellir trosglwyddo'r wybodaeth newydd o'r sesiynau gwyddoniaeth i'w teuluoedd a'u cymunedau er mwyn helpu i wneud Caerdydd yn ddinas sy'n croesawu gwenyn.

"Gwyddom fod treulio amser yn yr awyr agored ac mewn mannau gwyrddion yn helpu i hyrwyddo iechyd a llesiant felly trwy greu amgylcheddau sy'n croesawu gwenyn, gallwn helpu i wneud Caerdydd yn le gwell ai fyw a gweithio ynddo."

Dywedodd yr Athro Les Baillie: Fel rhan annatod o'r ddinas, mae'r Brifysgol yn gweithio gyda'n cymdogion i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr Cymreig a sicrhau bod y ddinas yn aros yn lle gwyrdd a braf i fyw ynddo.

Bydd y project i ymgysylltu ag ysgolion mewn partneriaeth â Willmot Dixon ac Addewid Caerdydd yn cynnig ystod o weithgareddau ac arbrofion gwyddonol i ysbrydoli plant.

Ychwanegodd y Cyng. Merry: "Mae Prifysgol Caerdydd yn rhan o Addewid Caerdydd ac mae'r gwaith a'r arbenigedd a ddarperir ganddynt yn dangos sut y gall y project greu dolen lwyddiannus rhwng plant a phobl ifanc y ddinas a rhai o'r cyfleoedd gwaith a chyflogaeth yng Nghaerdydd.

Dywedodd Prif Arweinydd Datblygu Cynaliadwy Willmott Dixon, Jo Charles: "Rydym wrth ein boddau yn cael bod yn rhan o'r project hwn am ei fod yn cydgordio'n gryf â'n gwerthoedd fel busnes. Credwn fod pwrpas y tu hwnt i elw gennym; ein nod yw creu gwerth i'n cymunedau ac ymdrechu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wella symudedd cymdeithasol yn y cymunedau lleol lle mae ein projectau a'n contractau ni. Dyna pam ein bod wedi gosod targed i ni ein hunain i wella cyfleoedd bywyd i 10,000 o bobl ifanc erbyn 2020.

"Gobeithiwn y bydd y project hwn yn ysbrydoli pobl ifanc am yr amrywiaeth o gyfleoedd y gall astudio pynciau STEM eu cynnig, gan gynnwys y rheiny yn y diwydiant adeiladu."

Mae Addewid Caerdydd yn weledigaeth y gall y sector cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector weithio mewn partneriaeth i gysylltu plant a phobl ifanc â'r ystod maith o gyfleoedd sydd ar gael ym myd gwaith. Yn y pen draw y nod fydd sicrhau y gall pob person ifanc yn y ddinas maes o law gael swydd sy'n ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn wrth gyfrannu at dwf economaidd y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth am y project gwenyn: ewch ipharmabees