Back
Ymgyrch wrth-sbwriel Caerdydd yn annog ysmygwyr i fwrw eu pleidlais

Mae Cyngor Caerdydd wedi gosod pum bin bonion sigarennau arbennig sydd wedi'u dylunio i holi barn ysmygwyr fel rhan o'r ymgyrch Carwch Eich Cartref.

 

Bydd gan y biniau flaen Perspex, rhannwr i lawr y canol a dau slot ar bob ochr i alluogi cael gwared ar fonion sigarennau. Caiff pob bin ei farcio â chwestiynau gwahanol megis ‘Gleision Caerdydd neu'r Cardiff Devils?', ‘Shirley Bassey neu Tom Jones?', ‘Manic Street Preachers neu Stereophonics?'. Yna bydd ysmygwyr yn penderfynu pa slot i'w ddefnyddio, gan ddibynnu ar yr ateb sy'n cyd-fynd â'r hyn sy'n well ganddynt. Ar ddiwedd pob wythnos, caiff y canlyniadau eu cyfrifo ar sail nifer y bonion sigarennau a'u postio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Caiff y biniau eu gwagio ac yna caiff cwestiynau eraill eu rhoi ar gyfer yr wythnos ganlynol.

 

Mae'r biniau wedi eu gosod mewn pum lleoliad gwahanol yng nghanol y ddinas o ddydd Llun a chaiff y cynllun peilot ei gynnal am fis.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael, "Yn amlwg, tipyn bach o hwyl yw hyn ond mae neges ddifrifol iawn y tu ôl i'r ymgyrch. Amcangyfrifir bod 122 o dunelli o sbwriel sy'n ymwneud ag ysmygu yn cael eu taflu ar draws y DU bob dydd! Mae'r llanast hwn yn cymryd llawer o amser i'w lanhau ac yn costio miliynau o bunnoedd i'r trethdalwr bob blwyddyn. Nid ydym yn annog pobl i ysmygu, ond yr hyn rydym yn ei wneud yw annog y rhai sy'n ysmygu i gael gwared ar eu bonion sigarennau mewn modd cyfrifol. Mae hefyd yn werth pwysleisio nad yw hidlwyr sigarennau'n fioddiraddadwy - maen nhw wedi'u gwneud o fath o blastig sy'n golygu y gallant aros yn yr amgylchedd am hyd at 15 mlynedd gyda goblygiadau marwol posib i fywyd gwyllt."

 

Yn ôl arolygon glendid stryd diweddar gan Cadwch Cymru'n Daclus, daethpwyd o hyd i sbwriel sy'n ymwneud ag ysmygu ar 80.3% o strydoedd Cymru, sy'n golygu mai dyma'r math mwyaf cyffredin o sbwriel yng Nghymru. Dyma hefyd yr eitem sy'n cael ei chyfrif fwyaf ar draethau Ewrop.

 

Rydym yn atgoffa preswylwyr bod taflu bonion sigarennau ar y llawr yn cael ei ystyried fel taflu sbwriel ac os bydd swyddog gorfodi gwastraff yn ei weld yn digwydd, bydd yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig am £80 i'r person sy'n gyfrifol. Caiff Hysbysiadau Cosb Benodedig eu hanfon hefyd i'r rhai sy'n cael eu dal yn taflu sbwriel o gerbydau.