Back
Ysgol Gynradd Springwood yn arwain y blaen gyda chynhwysiant

Mae Ysgol Gynradd Springwood yng Nghaerdydd wedi'i chydnabod yn swyddogol am ei gwaith i greu cymuned ysgol gynhwysol ar ôl iddi gael Nod Ansawdd Cynhwysiant a chael statws canolfan ragoriaeth. 

Mewn llythyr i'r ysgol, dywedodd Cyfarwyddwr y Nod Ansawdd Cynhwysiant (DU) Cyf, Joe McCann:"Mae cynhwysiant yn ganolog i'r ysgol fywiog, hapus hon.Mae pawb yn ei rannu ac yn ei werthfawrogi, o rieni sy'n cymryd rhan yn gynyddol bob blwyddyn, i'r plant sy'n edrych ar ôl ei gilydd gyda gofal a dawn, i'r staff y mae rhieni'n dweud eu bod yn "mynd yr ail filltir", a Phennaeth egwyddorol sy'n dweud bod pob plentyn yn haeddu bod y gorau gall, gyda chefnogaeth Corff Llywodraethu arbennig." 

Gan gydnabod y gydnabyddiaeth, meddai'r Pennaeth Mrs Pat Hoffer:"Gwyddom fod gennym rywbeth arbennig yma.Rydym ni'n ysgol hapus, gyfeillgar ac mae cynhwysiant yn graidd i'r cyfan.Roeddem yn falch tu hwnt ac wrth ein boddau bod ein gwaith caled a'r cynlluniau gwella manwl wedi cael eu cydnabod drwy ennill y wobr hon. 

"Rydym yn dîm cryf gyda phawb yn cael ei gefnogi gan Gorff Llywodraethu a rhieni bendigedig.Mae pawb yn gweithio'n ddiflino, gydag egni a brwdfrydedd - dim ond y gorau sy'n ddigon da i'n plant.Mae'r daith yn parhau, gan weithio gydag ysgolion eraill, ceisio rhagoriaeth a sicrhau bod gan ein disgyblion y gorau a'u bod wedi'u paratoi'n dda at y dyfodol." 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:"Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Springwood.Roeddwn yn ddigon ffodus ymweld â'r ysgol cyn gwyliau'r haf, ac roedd yr ethos gwych y mae Mrs Hoffer, y staff a'r Corff Llywodraethu wedi'i ymwreiddio yn y gymuned yn amlwg.Mae cael y gwaith hwn wedi'i gydnabod nid yn unig gan Nod Ansawdd Cynhwysiant, ond hefyd drwy statws canolfan ragoriaeth, yn gyflawniad a hanner ac mae'n wych bod pawb wedi bod yn rhan o'r llwyddiant hwn." 

Mae staff a disgyblion Ysgol Gynradd Springwood hefyd yn dathlu dau lwyddiant arall.Mae'n un o 10 ysgol yn unig i  ennill dyfarniad aur y Gymdeithas Ddaearyddiaeth eleni.Mae'r llwyddiant diweddaraf hefyd yn golygu bod Ysgol Gynradd Springwood yn ymuno â thair ysgol arall o Brydain i gyflawni'r Prif Nod Ansawdd Daearyddiaeth ar bedwar achlysur. 

Dywedodd beirniaid y Gymdeithas Ddaearyddiaeth:"Mae'r athrawon yn yr ysgolion hyn yn sicrhau bod eu cynllunio, eu polisïau a'u harfer yn miniogi dysgu disgyblion ac nad oes ofn cymryd risgiau, arloesi a herio i sicrhau cynnydd mewn daearyddiaeth. Mae'r ysgolion yn defnyddio dulliau creadigol o ysgogi dysgu ac yn rhoi pwys mawr ar ddefnyddio materion bywyd go iawn i hyrwyddo dealltwriaeth." 

Ychwanegodd Mrs Hoffer:"Mae'r ysgol yn ymfalchïo'n fawr yn y cyflawniad hwn ac yn cydnabod bod Daearyddiaeth yn fodd perffaith i ddatblygu agweddau cadarnhaol a dinasyddion moesol, gwybodus.Gall y byd o'n cwmpas ryfeddu ac ysbrydoli plant a phobl ifanc.Drwy astudio Daearyddiaeth gallant ymgysylltu â'r materion sy'n ymwneud â'r byd ehangach a chynaliadwyedd."