Back
Ysgolion Diweddaraf yr 21ain Ganrif yn agor yng Nghaerdydd

Mae pedair ysgol gynradd newydd sbon wedi agor yng Nghaerdydd fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ainGanrif y ddinas. 

Mewn buddsoddiad gwerth £22.6m, symudodd Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gymraeg Glan Ceubal ac Ysgol Gymraeg Glan Morfa i mewn i'w cartrefi newydd, pwrpasol, parhaol dros y gwyliau haf. 

Cawsant eu hadeiladu fel rhan o raglen Band A Ysgolion yr 21ainGanrif Caerdydd, gwerth cyfanswm o £164m, a ariannwyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru ar y cyd. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Dwi wrth fy modd o weld y pedair ysgol gynradd yn agor, gan roi cyfleusterau gwych i'r plant ac amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ainganrif.Mae Gabalfa, Howardian, Glan Ceubal a Glan Morfa wedi'u hariannu gan y cyngor a Llywodraeth Cymru dan Raglen ‘Band A' Ysgolion yr 21ainGanrif, sydd werth £164m. 

"Drwy ein Huchelgais Prifddinas, rydym wedi gwneud ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn gwella ac ehangu ein hysgolion.Mae agor pedair ysgol gynradd newydd y tymor hwn yn enghraifft glir arall o hyn, ac mae mwy ar y gweill." 

Bydd dwy ysgol newydd arall yn cael eu hagor yn ystod y flwyddyn ysgol.Disgwylir i Ysgol Gymraeg Hamadryad agor yn Butetown ar ôl y Nadolig, a disgwylir i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd symud i'w chartref newydd yng Nghaerau yn ystod gwyliau'r Pasg y gwanwyn nesaf. 

Cyhoeddodd Cyngor Caerdyddgam nesaf rhaglenYsgolion yr 21ainGanrif ddiwedd y llynedd.Ar gyfanswm o £284m, mae Band B yn cynrychioli'r buddsoddiad sengl mwyaf yn ysgolion Caerdydd. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Sarah Merry:"Y buddsoddiad hwn gwerth £284m yn ein hysgolion yw'r un mwyaf erioed yng Nghaerdydd.Bydd yn ein galluogi i gynyddu'r momentwm rydym wedi'i greu drwy amrywiaeth gyffrous o ysgolion newydd rydym wedi'u hagor gyda Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf a pharhau i greu ysgolion ysbrydoledig, cynaliadwy a chymunedol lle gall pob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial. 

"Bydd ein rownd nesaf o fuddsoddi yn ein galluogi i barhau i adnewyddu ein hysgolion i gymryd lle'r rheini sy'n cyrraedd diwedd eu hoes weithredol. Bydd hefyd yn ein galluogi i greu mwy o leoedd ysgol ar draws pob sector - cynradd, uwchradd, Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cymraeg a Saesneg - gan greu'r capasiti ychwanegol y bydd ei angen wrth i boblogaeth Caerdydd barhau i dyfu." 

Y manylion:Y pedair ysgol gynradd a agorodd y tymor hwn 

Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Ystum Taf

Wedi'i hadeiladu ar gost o £8.2m, mae'r ysgol newydd hon yn gartref i Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal - crëwyd dyluniad arloesol i'w galluogi i rannu'r safle. 

Mae gan y ddwy ysgol un dosbarth mynediad a lle ar gyfer hyd at 210 o ddisgyblion, o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6. Maent yn cynnig darpariaeth feithrin hefyd. 

Mae'r ysgolion newydd wedi'u hadeiladu ar dir rhwng safleoedd blaenorol Ysgol Gynradd Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal yn Colwill Road, Ystum Taf. 

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gabalfa, Mrs Carrie Jenkins, a Phennaeth Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Mrs Lisa Mead:"Mae wedi bod yn wythnos gyffrous iawn i'r ddwy gymuned wrth i ni agor y drysau am y tro cyntaf i'n gofod dysgu arloesol a rennir ac sydd â ffocws cymunedol.Roedd y disgyblion a'r rhieni wrth eu bodd â dyluniad a naws yr adeilad.Gwnaed argraff arbennig o dda arnynt gan lif a natur olau ac awyrog y gofodau dysgu amrywiol." 

Ysgol Gynradd Howardian, Pen-y-lan

Mae'r project £6.6m wedi creu cartref newydd i Ysgol Gynradd Howardian, ger ei leoliad dros dro blaenorol yn Hammond Way, Pen-y-lan. 

Mae ganddo le i 420 o ddisgyblion mewn dau ddosbarth y flwyddyn, o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, ynghyd â 48 o leoedd meithrin. 

Dywedodd y Pennaeth, Dr Helen Hoyle:"Mae'r plant yn dwlu ar yr adeilad newydd; gwnaethant sgipio i mewn i'w hystafelloedd dosbarth newydd yn llawn cyffro ar y diwrnod cyntaf.Maent yn arbennig o gyffrous am yr ardal gemau aml-ddefnydd, yr ystafell ddosbarth awyr agored newydd sydd wedi'i gwneud o bren a'r ardal sgwteri arbennig ar y maes chwarae.Mae'r staff hefyd yn llawn cyffro am yr ardaloedd dysgu ac addysgu pwrpasol hyn sydd wedi'u creu.Mae Howardian yn angerddol dros ddysgu awyr agored, ac rydym yn edrych ‘mlaen at ddatblygu'r tir o amgylch yr ysgol yn estyniad o'r ystafell ddosbarth." 

Ysgol Gymraeg Glan Morfa, Sblot

Mae Ysgol Gymraeg newydd Glan Morfa, sydd werth £7.8m ac wedi'i lleoli yn Lewis Road, Sblot, yn cynnig lle i hyd at 420 o ddisgyblion mewn dau ddosbarth y flwyddyn, o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6, ynghyd ag 80 o leoedd meithrin rhan amser. 

Symudodd Ysgol Glan Morfa o'i lleoliad blaenorol, yn Moorland Road gerllaw, dros yr haf. 

Dywedodd y Pennaeth, Mr Meilir Tomos:"Hoffwn ddiolch i Morgan Sindall a Chyngor Caerdydd am roi'r cartref newydd ffantastig hwn i ni yma yng nghanol Sblot.Mae'r adeilad hwn yn cynrychioli'r twf a'r galw am addysg Gymraeg yn y rhan hon o'r ddinas ac rydw i a'm staff wrth ein bodd o fod yn rhan o'r oes newydd arbennig hon.Mae'r plant ar ben eu digon gyda'r adeiladu newydd gan ei fod yn cynnig mwy o gyfleoedd addysgol iddynt a dyfodol mwy llewyrchus."