Back
Croeso!

 

Mae Caerdydd yn paratoi croeso prifddinas ar gyfer gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru pan fydd yn dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd  wythnos nesaf.

 

Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2018 yn cael ei chynnal yn y brifddinas rhwng 3 - 11 Awst a bydd yr ŵyl eleni yn brofiad cwbl newydd gyda digwyddiadau a chystadlaethau yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau arbennig yn y ddinas yn hytrach na'r pafiliwn a'r Maes traddodiadol.

 

Bydd Bae Caerdydd yng nghanol yr ŵyl gyda'r prif gystadlaethau a chyngherddau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, tra bydd yr ardal gerllaw yn cynnwysRoald Dahl Plass a'r glannau yn croesawu'r llwyfan awyr agored a'r pentref bwyd, yn ogystal â dros 150 o stondinau ac arddangoswyr.

 

Bydd yr Eglwys Norwyaidd yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau cerddorol gan gynnwys perfformiadau, cyflwyniadau a sgyrsiau tra bydd y Senedd yn gartref i'r Lle Celf ac Adeilad y Lanfa fydd y lleoliad eiconig ar gyfer Shw'mae Caerdydd, y ganolfan i ddysgu Cymraeg.Bydd Maes B - yr ŵyl roc a phop ymylol wedi ei lleoli yn hen adeilad Dr Who yn y bae.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Bydd hi'n bleser gwirioneddol cael croesawu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Gaerdydd am y tro cyntaf ers 2008. Bydd hon yn sicr yn Eisteddfod wahanol a bydd y bae yn gefnlen ffantastig ar gyfer y prif weithgareddau gydol y naw diwrnod.

 

"Mae sicrhau y bydd yr Eisteddfod eleni yn ŵyl "rhydd o ffensys" yn mynd i greu gŵyl agored, gynhwysol a chroesawgar i bawb, yn debyg iawn i Gaerdydd ei hun.Felly gyda mynediad am ddim i'r rhan fwyaf o weithgareddau, fy ngobaith yw y bydd holl drigolion Caerdydd, boed nhw'n hen lawiau ar yr Eisteddfod neu erioed wedi bod o'r blaen, yn dod draw a mwynhau'r awyrgylch ffantastig ar y Maes.Mae croeso i bawb.

 

 "Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn siop bob dim ar gyfer popeth Cymraeg ac fel dinas sydd ag uchelgais i feithrin a hyrwyddo'r defnydd ar y Gymraeg er mwyn dod yn brifddinas gwirioneddol ddwyieithog, rydym yn falch o allu croesawu pinacl y calendr diwylliannol Cymraeg."

 

Mae disgwyl 150,000 o ymwelwyr yn yr Eisteddfod a bydd y mynediad i'r Maes am ddim gan alluogi ymwelwyr i fwynhau cannoedd o ddigwyddiadau bob dydd.

 

Bydd gan Gyngor Caerdydd ei stondin ei hun ar y Maes, ger Canolfan Mileniwm Cymru, er mwyn hyrwyddo'r ddinas a gweledigaeth Prifddinas Ddwyieithog.Mae tîm Caerdydd Ddwyieithog y Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed gyda siopau a busnesau a sefydliadau lleol cyn yr Eisteddfod, gan gynnig cymorth Cymraeg a chyngor fel eu bod yn barod i groesawu ymwelwyr yn ogystal â chyfrannau at wneud Caerdydd yn wirioneddol ddwyieithog.

 

Bydd stondin y Cyngor yn cynnig gwybodaeth gyhoeddus am y ddinas a gwaith y cyngor yn ogystal â'r cyfle i roi cynnig ar brofiad realiti rhithwir o ddigwyddiadau megis gweithgareddau'r Gyfres Hwylio Eithafol yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd ac ymweliad ag Ynys Echni ym Môr Hafren.

 

Ychwanegodd y Cyng Thomas:"Bydd ymwelwyr yn dod o bob cwr o Gymru i'r Eisteddfod ac ar wahân i gystadlaethau, digwyddiadau ac atyniadau ar y Maes, mae hefyd llwyth i'w weld a'i wneud yn y ddinas ac rydym yn gobeithio y byddant yn gwneud y gorau o'u arhosiad yng Nghaerdydd drwy fwynhau rhai o uchafbwyntiau'r ddinas."

 

I hwyluso'r digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau o 6am ar ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf tan 6am ar ddydd Iau 16 Awst. Yn eu plith bydd Rhodfa'r Harbwr, Cei Britannia, Plas Bute, Stryd Pen Y Lanfa, Rhodfa Lloyd George a'r Fflourish.

Bydd mynediad i fasnachwyr, trigolion a busnesau'n cael ei reoli gan staff drwy gydol y digwyddiad.

Rydym yn argymell yn gryf i Eisteddfodwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teithio mewn car, mae llefydd parcio ceir a chyfleuster Parcio a Theithio ar gael.

Ar 3, 4 a 5 Awst, byddai'n syniad i bawb sy'n teithio mewn car ddefnyddio'r llefydd parcio sydd ar gael yng nghanol y ddinas ac ym Mae Caerdydd.Mae app parcio am ddim ar gael i'w lawrlwytho, ac mae rhagor o wybodaeth yma -https://bit.ly/2kjHhjn.

O ddydd Llun 6 Awst i ddydd Gwener 10 Awst, bydd y Parcio a Theithio i Ddigwyddiadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd)  a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 oddi ar yr M4.

Os cadwch le ymlaen llaw bydd yn costio £8 y carhttps://www.parkjockey.com/homes/event/93528neu fel arall bydd £10 yn daladwy ar y diwrnod mewn arian parod.

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Mae'r man gollwng yn Heol Hemingway, wrth Neuadd y Sir.Mae'r safle Parcio a Theithio 3.5 milltir o'r Bae, ac mae'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud i gyrraedd ar y bws (yn dibynnu ar y traffig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 6am, gyda'r safle'n agor am 6:30am, a'r bws cyntaf yn gadael am 7am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu yn Heol Hemingway am hanner nos gyda'r maes parcio'n cau am hanner awr wedi hanner nos.

Ar ddiwrnod olaf y digwyddiad, dydd Sadwrn 11 Awst, argymhellwn i yrwyr eto ddefnyddio meysydd parcio yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd.