Back
Ffyrdd ar Gau a Chyngor Teithio i’r Eisteddfod Genedlaethol


Daw'r Eisteddfod Genedlaethol i Gaerdydd o ddydd gwener 3 Awst i ddydd Sadwrn 11 Awst.

I hwyluso'r digwyddiad, bydd ffyrdd ar gau o 6am ar ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf tan 6am ar ddydd Iau 16 Awst. Yn eu plith bydd Rhodfa'r Harbwr, Cei Britannia, Plas Bute, Stryd Pen Y Lanfa, Rhodfa Lloyd George a'r Ffynhonnau.

Bydd mynediad i fasnachwyr, trigolion a busnesau'n cael ei reoli gan staff drwy gydol y digwyddiad.

Rydym yn argymell yn gryf i Eisteddfodwyr ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I'r rhai sy'n teithio mewn car, mae llefydd parcio ceir a chyfleuster Parcio a Theithio ar gael.

Ar 3, 4 a 5 Awst, byddai'n syniad i bawb sy'n teithio mewn car ddefnyddio'r llefydd parcio sydd ar gael yng nghanol y ddinas ac ym Mae Caerdydd.Mae app parcio am ddim ar gael i'w lawrlwytho, ac mae rhagor o wybodaeth yma -https://bit.ly/2kjHhjn.

O ddydd Llun 6 Awst i ddydd Gwener 10 Awst, bydd y Parcio a Theithio i Ddigwyddiadau yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd)  a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 oddi ar yr M4.

Os cadwch le ymlaen llaw bydd yn costio £8 y car  (https://www.parkjockey.com/homes/event/93528)neu fel arall bydd £10 yn daladwy ar y diwrnod mewn arian parod.

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle.

Mae'r man gollwng yn Heol Hemingway, wrth Neuadd y Sir.Mae'r safle Parcio a Theithio 3.5 milltir o'r Bae, ac mae'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud i gyrraedd ar y bws (yn dibynnu ar y traffig).

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 6am, gyda'r safle'n agor am 6:30am, a'r bws cyntaf yn gadael am 7am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu yn Heol Hemingway am hanner nos gyda'r maes parcio'n cau am hanner awr wedi hanner nos.

Ar ddiwrnod olaf y digwyddiad, dydd Sadwrn 11 Awst, argymhellwn i yrwyr eto ddefnyddio meysydd parcio yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd.