Back
Tîm Eco Ysgol yn ennill cystadleuaeth diwrnod dim ceir

Mae fideo ar-lein a gafodd ei greu gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna i ddathlu diwrnod dim ceir wedi dod yn fuddugol mewn cystadleuaeth ar gyfer y ddinas gyfan.

Cyflwynwyd talebau i aelodau Tîm Eco'r ysgol ar gyfer Treetop Adventure Golf yng nghanolfan siopa Dewi Sant, ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cyngor Caerdydd i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o hyrwyddo diwrnod dim ceir yn y ddinas mis Mai diwethaf.

Roedd y fideo buddugol yn dangos disgyblion yn egluro pwysigrwydd peidio â gwastraffu ynni ac yn galw am lai o allyriadau injan i gân roc enwog "Bicycle Race" gan Queen.Gellir gwylio fideo Ysgol Gynradd Radnor yma:https://www.youtube.com/watch?v=mEHRutdi5EY

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild,"Roedd hi'n bleser o'r mwyaf cyfarfod â staff a'r Tîm Eco yn Ysgol Gynradd Radnor a'u cyflwyno â'u gwobr.Roeddwn yn dwlu ar eu fideo ar-lein.Roeddynt wedi llwyddo i gyfleu neges bwysig y diwrnod dim ceir mewn modd diddorol iawn a dywedodd disgyblion wrthyf eu bod wedi cael llawer o hwyl wrth greu'r fideo.Hoffwn ddiolch i Eoghan Walsh hefyd a'r holl staff addysgu yn yr ysgol am weithio gyda'r disgyblion ar y prosiect arbennig hwn."

Roedd sawl ffordd yng nghanol dinas Caerdydd ynghau rhwng 10am a 4pm ar 13 Mai i dynnu sylw at bwysigrwydd gwella ansawdd aer yn ninasoedd Prydain.