Back
Digwyddiadau Haf Caerdydd. Dyddiadau i'r dyddiadur...

Bydd Haf yng Nghaerdydd yn un a hanner eleni gyda rhaglen gyflawn o ddigwyddiadau gan gynnwys chwaraeon, theatr stryd, cerddoriaeth fyw, diwylliant, bwyd stryd ac adloniant i'r teulu. Dyma sydd o'ch blaenau. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden: "Dros yr haf dewch i brifddinas Cymru am lu o adloniant teuluol am ddim i bawb o bob oedran. Gyda rhaglen sy'n llawn chwaraeon, diwylliant, bwyd a cherddoriaeth mae wir rywbeth at ddant pawb. 

"Bydd Traeth Bae Caerdydd yn symud i'r man digwyddiadau a ddatblygwyd ym Mhentir Alexandra a bydd yn fwy ac yn well nag erioed. Yn ogystal â bod yn hwyr, mae digwyddiadau llwyddiannus fel hyn yn hollbwysig i economi Caerdydd - maen nhw'n rhan o'r hyn sy'n gwneud y brifddinas yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef a gyda'r holl bethau sy'n digwydd bydd digon o wynebau hapus lond y ddinas yr haf hwn." 

Mae Caerdydd yn ddinas chwaraeon o'r safon uchaf sy'n cynnal digwyddiadau amlwg gan gynnwys Bocsio Pwysau Trwm y Byd, Cwpan Rygbi'r Byd 2015, ffeinal Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017 a mis Mai yma croesawom Ras Fôr Volvo. Os nad ydych wedi ymuno â'r 60,000 o bobl sydd eisoes wedi ymweld â'r ŵyl am ddim yn dathlu Cam Caerdydd mae o hyd amser. Mae pentref y ras yn cynnwys hwyl syrcas, chwaraeon dŵr, bwyd stryd, cerddoriaeth Fyw, atyniadau Ras Fôr Volvo a'r olwyn fawr tan 10 Mehefin. 

Cynhelir gŵyl bwyd stryd wreiddiol Caerdydd yng Nghastell Caerdydd ar 2 Mehefin. Bydd DEPOT y Castell o 12pm i 11pm a daw â phob math o fwyd stryd, hwyl i'r teulu a cherddoriaeth fyw wych gan artistiaid fel The Fratellis, Sister Sledge, Hackney Colliery Band a Fleetmac Wood. 

Bydd Gŵyl Awyr Agored Caerdydd yn dychwelyd i Erddi Sophia gan ddod â chyfres o gynyrchiadau theatrig i ganol y ddinas. Wedi'u cynhyrchu gan Everyman rhwng 21 Mehefin tan 28 Gorffennaf bydd cynyrchiadau Shakespeare, The Rocky Horror Picture Show, Dad's Army a chynhyrchiad i blant o Seussical Jr ymhlith eraill. 

Bydd antur ganoloesol wych yn dod i Gastell Caerdydd wrth i Joust! ddychwelyd ar 23-24 Mehefin. Bydd campau ceffyl anhygoel wrth i'r Knights of Royal England wneud popeth y gallant ac ymryson â'i gilydd i daro tariannau eu gwrthwynebwyr a'u hergydio i'r llawr. 

Bydd Tafwyl hefyd yng Nghastell Caerdydd eleni o 30 Mehefin i 1 Gorffennaf. Yn dathlu'r Gymraeg, mae'r ŵyl deuluol hon yn gymysgedd fywiog o gerddoriaeth, llenyddiaeth, drama, comedi, celf, chwaraeon a bwyd a diod.  Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb - yn siarad Cymraeg ai peidio. Mae'n ddigwyddiad delfrydol i ddysgwyr a phobl sy'n cael eu profiad cyntaf erioed o iaith a diwylliant Cymru. 

Yn nefoedd i bobl bwyd â dathliad gwreiddiol y ddinas o gynnyrch lleol. Daw cynhyrchwyr bwyd stryd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ynghyd gan gynnwys hen ffefrynnau Hang Fire Southern Kitchen, Meat and Greek a pheidio ag anghofio cwrw crefft a'r bar siampên. Ymlaciwch gyda cherddoriaeth fyw a mwynhau'r awyrgylch ar lannau'r dŵr. 6-8 Gorffennaf 

Yn ôl ac yn fwy nag erioed! Daw Gŵyl Traeth Bae Caerdydd Capital FM mewn lleoliad newydd ar lannau'r dŵr ger Morglawdd Bae Caerdydd, a chynnwys mwy nag erioed o atyniadau dros wyliau'r haf. Yn cymryd drosodd Pentir Alexandra, mae safle'r digwyddiad yn cael ei ddefnyddio i Bentref Ras Fôr Volvo, a bydd yn gartref i'r Traeth o 6 Gorffennaf - 2 Mai, gyda naw wythnos o adloniant i'r teulu nes i'r plant ddychwelyd i'r ysgol. Bydd llawer mwy i bobl ifanc ac mae chwyddo'r ŵyl yn ogystal â chynnwys yr arferol wedi golygu y gall y Traeth frolio atyniadau mawr fel Olwyn Fawr, Roller Coaster, archau chwistrellu dŵr mawr, nosweithiau ffilm, a phabell lle gall ymwelwyr fwynhau bwyd stryd arbennig. 

O 6 Gorffennaf i 17 Awst bydd T20 Blast yn cyrraedd. Mae Vitality Blast yn ddeufis o griced, gyda phob tîm yn ymdrechu'n lew i gael cynifer o rediadau â phosibl mewn cyn lleied o amser â phosibl, bydd chwarae gwych a drama wrth i'r batwyr fwrw'r bêl i ebargofiant! Bydd adloniant ac awyrgylch parti - amser gwych ar y cae chwarae ac ymhlith y gwylwyr! 

Mae'n bleser gan Gaerdydd groesawu Eisteddfod 2018 yn ôl i'r ddinas. Yn arbrofi gyda chysyniad newydd i ŵyl draddodiadol a gynhelir mewn cae, bydd yn defnyddio lleoliadau o'r radd flaenaf i ddenu'r ffyddlon a'r newydd i'r Ŵyl ym mhrifddinas Cymru. Bydd Bae Caerdydd yn cael ei weddnewid yn Faes llawn croeso rhwng 3 a 11 Awst. 

Daw'r Sgarmes Ganoloesol Fawreddog yn ôl 18-19 Awst, gyda bwrlwm gwersyll canoloesol, gyda cherddoriaeth, gemau, arddangosiadau a saethyddiaeth. Bydd Twrnamaint y Marchogion newydd yn cynnwys y Warwick Warriors, pebyll lliwgar, marchogion nôl ac arddangosiadau hebogyddiaeth heb eu hail yn ffordd wych i'r teulu cyfan gamu nôl i'r gorffennol a chael digonedd o hwyl. 

Bydd cyffro i Ŵyl Banc Awst gyda Gŵyl Harbwr Caerdydd yn cynnal y Gyfres Hwylio Eithafol. Yn enwog am yr ysbryd rasio gwych sy'n llifo drwyddi bydd y gyfres Hwylio Eithafol yn dychwelyd, gyda morwyr gwych a rasio cyffrous. Ar y tir sych bydd digon o adloniant ym Mhentref y Ras ar Rodfa'r Harbwr a llawer mwy; digwyddiad teuluol gyda theatr stryd, stondinau ac awyrgylch gŵyl deuluol gwych.  25 - 27 Awst. 

Hefyd dros ŵyl y banc, bydd Penwythno Mawr Pride Cymru ar Lawnt Neuadd y Ddinas gyda pharti mawr 3 diwrnod o hyd, gydag adloniant ardderchog wrth galon y brifddinas, yn dathlu a hybu pwysigrwydd y gymuned LGBT yn y gymuned a dod â 200,000 o bobl ynghyd i ddathlu ym mhrifddinas y genedl. 

Am roi'ch traed fyny a gwylio ffilm dan sêr y nos? O 14-16 Medi bydd Tiroedd y Castell yn cynnal sinema dan y sêr, dewch â mat, picnic a mwynhewch eich hoff ffilmiau yn lleoliad hudol tir y Castell gan gynnwys The Greatest Showman, Pretty Woman a Harry Potter & Chamber of Secrets. 

Ewch i www.visitcardiff.com  i gael rhagor o wybodaeth. 

#CroesoCdydd #CaerdyddYw #CaerdyddYwHaf