Back
Arbenigwyr yn dathlu blwyddyn y môr ac yn llunio gweledigaeth newydd ar gyfer Bae Caerdydd

Mae Ras Fôr Volvo wedi cyrraedd yng Nghaerdydd ac i ddathlu'r achlysur nodedig hwn, bydd arbenigwyr y diwydiant o Ewrop a'r DU yn cyfarfod i ystyried pwysigrwydd treftadaeth forol Caerdydd a'i rôl yn y gwaith o lywio datblygiad economaidd a diwylliannol y dyfodol. 

Disgwylir y bydd mwy na 300 o gynadleddwyr yn bresennol yn y gynhadledd a gynhelir ar 30 a 31 Mai yng Ngwesty'r Exchange a Chanolfan Mileniwm Cymru. Nod y rhaglen,‘Rhoi dyfodol i'r gorffennol, rhoi gorffennol i'r dyfodol'yw ysbrydoli cynllunwyr, buddsoddwyr, datblygwyr eiddo a chynrychiolwyr cymunedol i fanteisio i'r eithaf ar botensial ein cysylltiadau morol gwych - yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. 

Bydd mwy nag 20 o wahanol siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth am ein treftadaeth forol, gan dynnu sylw at arfer gorau o ran datblygu projectau llwyddiannus a chyfrannu syniadau arbenigol o ran sut  y gellir gwireddu'r weledigaeth ar gyfer Bae Caerdydd. 

Caiff y cyfranogwyr eu croesawu'n ffurfiol i'r gynhadledd gan y Cyng. Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Rhwyfwraig yr Iwerydd o Gymru, Elin Haf Davies, sef Cennad Llywodraeth Cymru ar gyfer ‘Blwyddyn y Môr' a chynrychiolwyr Ras Fôr Volvo.Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda chynhadledd a drefnir gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth y Môr a fydd yn cyflwyno projectau cynaliadwy yn seiliedig ar bob agwedd ar dreftadaeth forol ac, yn arbennig, yr her o godi arian i gyflawni'r projectau hynny. 

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:"Caerdydd oedd porthladd allforio glo mwyaf y byd ar un adeg a bu'n chwarae rôl sylweddol yn economi'r byd.Yn sgil dad-ddiwydiannu fodd bynnag, trodd Bae Caerdydd ei golygon tuag at adfywio, gyda ffocws newydd ar ddenu pobl ac ymwelwyr.Rydym yn cydnabod, er mwyn i Gaerdydd barhau i fod yn gyrchfan glan-dŵr flaenllaw, bod rhaid i ni ail-lunio'r weledigaeth ar gyfer Bae Caerdydd fel cyrchfan hamdden er mwyn cynnal y momentwm sydd wedi bod ar waith dros yr 20 mlynedd diwethaf. 

"Mae Ras Fôr Volvo  nid yn unig yn cadarnhau ein gallu i gynnal digwyddiadau rhyngwladol o bwys ac yn benodol, cyflwyno Caerdydd i gynulleidfa newydd sbon, ond mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ddod ag arbenigwyr yn y maes adfywio glannau i Gaerdydd i fyfyrio ar ei gorffennol ac ystyried ei dyfodol. 

Mae uchafbwyntiau dydd Mercher 30 Mai yn cynnwys: 

-         Matthew Tanner,Prif Weithredwr SS Great Britain a Sefydliad Brunel ym Mryste: Dod o hyd i Ysbrydoliaeth yn y maes treftadaeth newydd

-         Sara Crofts, Pennaeth Amgylcheddau Hanesyddol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri;Dyfodol Cynaliadwy?

-         Piran Harte a Victoria Wallworth, Llongau Hanesyddol Cenedlaethol:Mynd i'r afael â'r her sgiliau ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y maes cadwraeth a gweithredu 

Bydd dydd Iau 31 Mai yn canolbwyntio ar weledigaeth newydd Cyngor Caerdydd ar gyfer cam datblygu nesaf Bae Caerdydd fel cyrchfan yn y ddinas.Yn cael ei gynnal gan Awdurdod Harbwr Caerdydd ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cyng. Russell Goodway, bydd y diwrnod yn cyflwyno'r weledigaeth ar gyfer y Bae ac yn gwahodd adborth oddi wrth y cyhoedd. 

Bydd cynrychiolwyr blaenllaw o gymuned fusnes Caerdydd yn dweud eu barn am y gwaith o ddatblygu'r Bae dros yr 20 mlynedd diwethaf gan awgrymu pa wersi y gellir eu dysgu gyda golwg ar gynllunio ar gyfer y dyfodol.Yna caiff panel o arbenigwyr rhyngwladol, a fydd wedi bod yn treulio amser yn asesu'r sefyllfa bresennol, yn cael eu gwahodd i rannu  eu barn ynghylch pa gyfleoedd a ddaw yn y dyfodol. 

Mae uchafbwyntiau dydd Iau 31 Mai yn cynnwys: 

-        Mike Lawley, Cadeirydd, Cooke & Arkwright;O Draethellau Lleidiog i Economi Ffyniannus;Y Persbectif o ran Eiddo

-        Callum Couper, Rheolwr Porthladd Porthladdoedd De Cymru, Associated British Ports;Dyfodol Porthladd Caerdydd

-        Gordon Young, Cerflunydd ac Artist Rhyngwladol Penigamp:Amharu ar y Ffordd yr Ydym yn Ystyried Glannau 

Ar y naill ddiwrnod a'r llall bydd cynadleddwyr yn cael y cyfle i ddod i adnabod y Bae drwy ddewis un o dair taith naill ai ar droed, cwch neu fws a thrwy gydol y gynhadledd bydd Adeilad y Pierhead yn parhau ar agor i alluogi cynadleddwyr i weld y lleoliad eiconig hwn a'i arddangosfeydd a gweld ffilm am dreftadaeth dociau Caerdydd. 

Dywedodd yr Athro Terry Stevens, cydlynydd y digwyddiadau gyda'r hwyr a'r gynhadledd ddeuddydd:"Mae'r syniad o fwrw ati i edrych i'r gorffennol i helpu i lywio'r dyfodol yn bwysig i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol ein porthladdoedd a harbwrs ôl-ddiwydiannol.Mae'n hynod briodol felly bod Caerdydd, un o borthladdoedd amlycaf y byd ar un adeg, yn croesawu Ras Fôr Volvo ac yn defnyddio'r achlysur rhyngwladol hwn nid yn unig i ddathlu Blwyddyn y Môr yng Nghymru, ond hefyd i harneisio'r gwaith o ddod ag arbenigwyr o bob rhan o'r byd at ei gilydd i ddylanwadau ar y ffordd yr ydym yn meddwl am ddyfodol cyffrous Caerdydd a'r Bae."