Caiff Caerdydd sy'n Deall Demensia - mudiad i annog a chefnogi sefydliadau, busnesau lleol a grwpiau cymunedol yn y ddinas i fod yn fwy ystyriol o ddemensia, ei lansio'n swyddogol wythnos nesaf.
Mewn digwyddiad arbennig yn Arena Motorpoint ar ddydd Llun 21 Mai yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddemensia (21-27 Mai) mae gwaith yn cael ei arddangos a'i ddathlu ledled Caerdydd i wella bywydau pobl a effeithir gan ddemensia, gan hefyd ystyried opsiynau i wneud y ddinas mor gefnogol a chynhwysol ag y gall fod.
Mae'r ddinas wrthi'n gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru tuag at fod yn gymuned sy'n deall demensia a'r llynedd cyflwynwyd cynllun addewid yn cofrestru cefnogaeth gwasanaethau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector ar y daith honno.
Bellach, gyda mwy a mwy o sefydliadau a busnesau ar draws y ddinas yn addo dysgu am ddemensia a gwneud newidiadau bychain i fod yn fwy ystyriol ohono, bydd lansiad Caerdydd sy'n Deall Demensia yn rhoi chwyddwydr dros arfer da yn y ddinas ac yn trafod pa wersi y gellir eu dysgu i wneud gwahaniaeth i bobl a effeithir gan ddemensia.
Yn y digwyddiad, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hefyd yn lansio ei Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar Ddemensia 2018 - 2021, a luniwyd ar y cyd â'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.
Noda'r strategaeth nod uchelgeisiol i godi ymwybyddiaeth o ddemensia ar draws poblogaeth gyfan Caerdydd a Bro Morgannwg tra ar yr un pryd yn gwella profiad y sawl sy'n byw gyda demensia a lleihau risg pobl o ddatblygu demensia.
Noda'r strategaeth y bydd gan "bobl â demensia fynediad cydradd ac amserol i ddiagnosis; cânt ofal caredig o gylch yr unigolyn yn lleol.Bydd gofalwyr yn teimlo eu bod wedi'u cefnogi a'u grymuso."
Fel rhan o'i ymrwymiad i gefnogi pobl gyda demensia, roedd BIP Caerdydd a'r Fro'n awyddus i gefnogi Caerdydd sy'n Deall Demensia a bu'n rhan bwysig o'r broses o ddatblygu'r fenter.
Erbyn Mawrth 2018, roedd tua 70% o'n staff wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia gyda llawer ohonynt yn cofrestru i fod yn gyfeillion demensia.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:"Rydym yn ymrwymedig i gefnogi dinasyddion a theuluoedd sy'n byw gyda demensia ac i wneud Caerdydd yn ddinas a gydnabyddir yn un sy'nDeall Demensia, yn rhywle y gall pobl a effeithir gan ddemensia ddal i lewyrchu a mwynhau bywyd, gan wybod bod y gymuned ehangach yn deall ac yn cefnogi eu hanghenion.
"Mae'r cynllun addewid yn casglu momentwm gydag ystod eang o sefydliadau'n ymrwymo i chwarae'u rhan ar daith i fod yn ddinas sy'n deall demensia yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddemensia, ac rydym am ddathlu llwyddiannau hyd yma, a gweithio gyda phartneriaid a phobl a effeithir gan ddemensia i sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn i fodloni anghenion pobl sy'n byw gyda demensia."
Bydd amryw sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â demensia yn y digwyddiad yn Arena Motorpoint, yn rhoi cyngor a gwybodaeth i gynadleddwyr.Bydd hefyd sesiynau ymwybyddiaeth a gweithdai Cyfeillion Demensia sy'n casglu syniadau ar sut y gall y ddinas fod yn fwy cefnogol a chynhwysol i bobl gyda demensia a'u gofalwyr.
Drwy gydol Wythnos Gweithredu ar Ddemensia, bydd nifer o lyfrgelloedd a hybiau yng Nghaerdydd yn cynnal caffis demensia, sef man diogel i bobl sy'n byw gyda demensia, eu gofal a'u teuluoedd fwynhau paned a chyfle i gwrdd ag eraill, cael gwybodaeth a dysgu am wasanaethau mewn amgylchedd cymdeithasol.Bydd caffis yn The Powerhouse, ddydd Mawrth 22 Mai (12-2pm), Llyfrgell Rhiwbeina, ddydd Mercher 23 Mai (10.30am - 12pm) a Hyb Llanisien, ddydd Iau 24 Mai (12-2pm).Bydd thema deall demensia yn sesiynau amser stori a chrefftau yn hybiau a llyfrgelloedd y ddinas gydol yr wythnos.
Bydd gwasanaeth Pryd ar Glud y Cyngor, sy'n helpu pobl hŷn ac agored i niwed y ddinas i fyw'n annibynnol gartref am hirach, yn rhoi samplau i siopwyr o'u prydau poeth, maethlon yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ar 23 Mai tra bydd y gwasanaeth llyfrgell yn codi ymwybyddiaeth o'u gwasanaethau drwy gaffis demensia, Podiau Atgofion ac adnoddau sydd mewn llyfrgelloedd a hybiau.
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio nifer o ‘Bods Cofio' sy'n setiau dros dro sy'n cynnwys ystafell fyw o'r 1960au, hen sinema a siop da-da draddodiadol gyda chelfi cysylltiedig, yn ystod ymweliadau a digwyddiadau i gartrefi gofal i helpu pobl i gofio'r dyddiau a fu, ac ysbarduno sgyrsiau ac atgofion.
Dywedodd Melanie Andrews, Rheolwr Gweithredol y Gymdeithas Alzheimer yn Ne-ddwyrain Cymru:
"Rydym yn galw ar i bobl yng Nghaerdydd weithredu yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddemensia.Yn y DU, mae rhywun yn datblygu demensia bob tair munud ac mae bron pawb yn nabod rhywun yr effeithiwyd ei fywyd ganddo.Ond mae gormod o bobl yn wynebu'r cyflwr ar eu pen eu hunain heb gymorth digonol.
"Mae gan bobl gyda demensia a'u gofalwyr bethau y maen nhw'n eu rhannu gyda ni i wneud gwahaniaeth, o ‘gwahodd fi allan, mae fy ffrindiau dal yn werth y byd i mi' i ‘cymer amser i wrando, alla i ddal dysgu ambell beth i ti'.
"Felly ymunwch â ni ar ddydd Mercher 23 Mai yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd i weithredu ac uno'n erbyn demensia a helpu pobl a effeithir i deimlo'n rhan o'u cymuned a gallu byw'r bywyd y maen nhw eisiau.
I gael rhagor o wybodaeth am Gymunedau sy'n Deall Demensia ewch ialzheimers.org.uk/dementiafriendlycommunities
Mae'r Gymdeithas Alzheimer yma i unrhyw un a effeithir gan ddemensia.Rhydd yr elusen wybodaeth a chymorth, ac i ddysgu mwy gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Demensia Genedlaethol ar 0300 222 1122 neu fynd i alzheimers.org.uk/DementiaActionWeek