Back
Cynnig buddion cymunedol go iawn i Gaerdydd

Cynnig buddion cymunedol go iawn i Gaerdydd

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi addo i weithio gyda'i gyflenwyr a'i gontractwyr i gynyddu lefel y gwariant sy'n aros yn y ddinas ac economi'r rhanbarth ehangach.

 

Mae'r Cyngor yn gwario £410m bob blwyddyn yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith - mae 65% ohono'n aros yn yr economi rhanbarthol.

 

Mae'r addewid yn rhan o Bolisi Caffael yn Gyfrifol yn Gymdeithasol cyntaf y Cyngor a gafodd ei lansio'r wythnos hon mewn digwyddiad gydag oddeutu 300 o fynychwyr o'r sector adeiladu.   Nod y polisi yw sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y mwyaf o'i fuddion llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol i gymunedau drwy ei wariant caffael blynyddol o £410 miliwn.

 

Mae chwech o themau blaenoriaeth y polisi'n amlinellu sut bydd y Cyngor yn gweithio gyda'i gyflenwyr a'i gontractwyr i gynnig buddion ychwanegol i gymunedau ledled Caerdydd.  Amcan canolog yw creu cyflogaeth gynhwysol, lleoliadau gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddiant eraill i bobl ifanc i leihau diweithdra ac i godi lefelau sgiliau yn y gweithlu lleol.  Mae'r Cyngor am weithio gyda sefydliadau sy'n rhannu ei werthoedd a'i ymrwymiad i'r safonau cyflogaeth moesol uchaf wrth ei waith a'i gadwyn cyflenwi.

 

Ymhlith y blaenoriaethau eraill mae cefnogi BBaChau a'r Drydydd Sector, gan chwarae rôl actif mewn cymunedau lleol a chefnogi sefydliadau cymunedol, defnyddio adnoddau'n effeithlon, lleihau gwastraff a lleihau defnydd ynni i amddiffyn yr amgylchedd a hyrwyddo llesiant pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed.

 

Mae'r polisi hefyd yn amlinellu'r math o fuddio cymunedol yr hoffai'r Cyngor ei weld ar bob contract dros £1m. Bydd angen i bob cynigiwr nodi'n glir y buddion cymunedol y byddant yn eu cynnig wrth gyflwyno contract i'r Cyngor, a byddai hyn yn ei dro yn ffurfio rhan o gontract y cynigiwr llwyddiannus.

 

Dywedodd y Cyng Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae'r polisi'n nodi ein hymrwymiad i wneud y mwyaf o'r buddion i bobl leol a chymunedau o wariant blynyddol £410m y Cyngor gyda bron 8,500 o gyflenwyr a chontractwyr.

"Fel prif gyflogwr gyda gwariant caffael mawr, rydym mewn sefyllfa dda i sicrhau bod yr arian yr ydym yn ei wario yn cael effaith bositif ar yr economi lleol.

"Mae dros hanner ein gwariant eisoes yn aros yn y ddinas-ranbarth un ai drwy gyflenwyr a chontractwyr lleol neu drwy weithlu a gyflogi yn lleol ac rydym yn gweithio tuag at wella hyn ymhellach.

"Rydym yn awyddus i symud yr agenda cyfrifoldeb cymdeithasol ymlaen yng Nghaerdydd ac rydym eisoes wedi dangos ein harweinyddiaeth drwy dalu'r Cyflog Byw ers 2012, yn cefnogi sefydliadau i dalu'r Cyflog Byw i'r gweithlu a bod ymhlith y cyntaf i lofnodi Cod Ymddygiad ar gyfer Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi Llywodraeth Cymru.

"Wrth wraidd hyn mae ein hymrwymiad i drechu tlodi ac anghydraddoldebau ledled y ddinas ynghyd â'r ymrwymiad i barhau i fwrw ymlaen ag economi Caerdydd. Nod y polisi newydd hwn yw sicrhau bod pobl leol a chymunedau lleol yn elwa pan fydd y Cyngor yn gwario arian ar nwyddau a gwasanaethau a'n parodrwydd i weithio gyda sefydliadau a busnesau sy'n rhannu ein hegwyddorion a gwerthoedd."

 

Cliciwchymai weld y Polisi Caffael yn Gyfrifol yn Gymdeithasol.