Back
Cyngor Caerdydd yn cefnogi cyhoeddiad ariannu Teithio Llesol Llywodraeth Cymru

Ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cyng. Huw Thomas, a'r Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild, â Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yr wythnos hon i gefnogi cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru am eu hymrwymiad gwerth £60m i deithio llesol dros y tair blynedd nesaf. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi clustnodi £10m, ar gyfer teithio llesol yn y gyllideb eleni, ac mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn gyson gyda chynlluniau'r awdurdod lleol i leihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer, iechyd a llesiant. 

Dywedodd y Cyng. Huw Thomas:"Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU ac mae'n sbardun economaidd allweddol i'r brifddinas ranbarth, ac i Gymru gyfan.Gyda thwf a sbardun economaidd, daw heriau yn ei sgil. 

"Bob dydd, mae 90,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd o'r tu allan; 72,000 o'r rheiny yn teithio mewn car.Rhaid i ni gyflwyno cyfleoedd newydd i annog pobl allan o'u ceir, a chreu dewisiadau cludiant cynaliadwy, ymarferol a deniadol amgen. 

"Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y £60m ar gyfer teithio llesol, ac edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda nhw er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei ddefnyddio i greu'r newid mwyaf posib o ran ymddygiad teithio, i fynd law yn llaw â'r buddsoddiad na welwyd ei debyg y mae'r Cyngor bellach yn ei roi i Deithio Llesol." 

Nododd y Cyng. Wild:"Os ydym i allu ysgwyddo twf Caerdydd yn y dyfodol - a lleddfu tagfeydd - yna mae'n rhaid i ni newid y modd y byddwn yn meddwl am deithio o amgylch y ddinas.Ein targed yw i dros 50 y cant o deithiau gael eu gwneud ar gefn beic, ar droed neu ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2026.

"Yn ogystal â lleihau tagfeydd, mae teithio llesol hefyd yn golygu allyriadau carbon is, gwell ansawdd aer a gwell iechyd.Rydym wedi bod wrthi'n brysur yn paratoi ein cynlluniau ar gyfer rhoi'r traffyrdd beicio newydd ar waith yn raddol, cyfnewidfa drafnidiaeth newydd a hyb i feics yn y Sgwâr Canolog, uwchraddio llwybrau poblogaidd a chynllun llogi beics ar y stryd - Next Bike." 

Dywedodd Y Prif Weinidog:"Mae'r arian hwn - £60 miliwn dros y tair blynedd nesaf - yn arwydd o newid sylweddol yn ymagwedd Llywodraeth Cymru at Deithio Llesol.Mae lefelau cyllido ar gyfer cerdded a beicio wedi pendilio o flwyddyn i flwyddyn, ond mae hwn yn ymrwymiad clir i flaenoriaethu'r gwaith hwn. 

"Mae cael mwy o bobl i gerdded neu feicio i'r gwaith, ysgol, neu alw yn y siop i gael peint o laeth yn gam syml sydd â buddion real iawn.Mae adeiladu ymarfer corff i'n bywydau beunyddiol yn gwella ein hiechyd, yn ogystal â lleihau'r traffig ar ein ffyrdd, lleihau llygredd yn yr aer a lleihau tagfeydd." 

Mae'r Cyngor wedi lansio papur gwyrdd ar Aer Glân yn y ddinas ac yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn y sgwrs am y syniadau mawr a allai lunio dyfodol system drafnidiaeth Caerdydd a golwg a naws y ddinas yn y dyfodol. 

Mae'r Papur Gwyrdd ar Drafnidiaeth ac Aer Glân ar gael i'w weld yma https://www.caerdydd.gov.uk/papurgwyrddtrafnidiaethac mae cyfres o gwestiynau wedi eu holi ym mhob adran er mwyn derbyn adborth gan breswylwyr ar y cynigion a'r syniadau cyn cau'r ymgynghoriad ar 1 Gorffennaf. 

Sut mae cymryd rhan - ymunwch yn y sgwrs drwy: