Back
Gwasanaethau cynhwysiant digidol yn rhestr 100 uchaf y DU

Gwasanaethau cynhwysiant digidol yn rhestr 100 uchaf y DU

 

Mae gwasanaethau i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd a'r gwirfoddolwyr cynhwysiant digidol wedi eu henwebu yn rhestr 100 uchafDigital Leadersy DU yn 2018.

 

Menter Brydeinig ar gyfer hyrwyddo trawsnewid digidol effeithiol a hirdymor trwy'r llywodraeth, diwydiant ac elusennau ywDigital Leaders.

 

Mae'r gwasanaethau i Mewn i Waith a'r gwirfoddolwyr yn y rhestr annibynnol sy'n cydnabod y 100 o bobl a sefydliadau sy'n arwaith y ffordd o ran trawsnewid digidol ym mhob sector.

 

Mae'r Cyngor wedi ei enwebu ar gyfer categori Menter Sgiliau neu Gynhwysiant Digidol y Flwyddyn ac mae'r bleidlais gyhoeddus i ddewis enillydd y grŵp nawr ar agor. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne, "Rwyf i wrth fy modd bod ein gwasanaethau i Mewn i Waith a'n tîm ardderchog o wirfoddolwyr yn ein hybiau cymunedol wedi cael eu cydnabod ar y rhestr glodfawr hon.

 

"Mae Llythrennedd Ddigidol nawr yn sgil hanfodol i bobl os ydynt am ddysgu neu gael cyfleoedd gwaith, hawlio budd-daliadau, trin eu harian neu gadw cysylltiad â newyddion, ffrindiau, teulu ac yn y blaen.

 

"I lawer o bobl, mae mynd ar-lein a gwybod beth i'w wneud yn gwbl naturiol ond i eraill, mae arnyn nhw angen help a mynd yn ôl i'r cychwyn i ddysgu; mae ein timau'n gallu rhoi'r cymorth personol hwnnw a helpu i roi'r sgiliau y mae ar y bobl hyn eu hangen yn yr oes ddigidol sydd ohoni.

 

"Gall gostwng allgau digidol ein helpu yn ein hymrwymiad i drechu tlodi ac anghydraddoldeb trwy roi sgiliau a chyfleoedd i bobl i gael a chadw swydd.A chyda chyflwyno gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn yng Nghaerdydd, sy'n golygu y bydd yn rhaid i bobl hawlio a chynnal eu cyfrifon budd-daliadau ar-lein, mae'n bwysicach nag erioed eu bod yn gallu defnyddio technoleg ddigidol."

 

Gall gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor helpu pobl â sgiliau cyfrifiadur sylfaenol, megis tanio cyfrifiadur, defnyddio'r we a chreu a defnyddio cyfrif e-bost.Gallant hefyd helpu pobl i ddod yn barod ar gyfer y byd gwaith trwy eu helpu i ysgrifennu CV, chwilio am waith a chwblhau ceisiadau ar-lein ar gyfer Credyd Cynhwysol.Mae cyfrifiaduron i'w defnyddio am ddim a chysylltiad WiFi am ddim yn yr holl hybiau cymunedol.

 

Y llynedd, cafodd dros 40,000 o gwsmeriaid eu cefnogi gan y gwasanaeth i Mewn i Waith ac roedd gwirfoddolwyr yn hanfodol yn y 1,441 o sesiynau a gynhaliwyd.Mae nifer o'r gwirfoddolwyr yn siarad ieithoedd eraill y cymunedau, sy'n helpu cleientiaid nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf.Mae gwirfoddolwyr wedi rhoi 19,000 awr o'u hamser ers sefydlu'r tîm yn 2014.

 

 Gall y cyhoedd nawr bleidleisio dros wasanaethau i Mewn i Waith y Cyngor a'r gwirfoddolwyrcynhwysiant digidol trwy fynd iwww.digileaders100.com.

 

Caiff trefn derfynol y rhestr ac enillwyr y categorïau eu cyhoeddi yn Llundain ar 21 Mehefin.