Back
Galw am wirfoddolwyr 50 diwrnod cyn bod Ras Fôr Volvo yn cyrraedd Caerdydd

Galw am wirfoddolwyr 50 diwrnod cyn bod Ras Fôr Volvo yn cyrraedd Caerdydd

 

Mae 7 Ebrill yn nodi 50 diwrnod cyn bod Ras Fôr Volvo, digwyddiad hwylio anoddaf ac uchaf ei fri y byd, yn dod i Gaerdydd ddydd Sul 27 Mai am bythefnos - a gelwir ar bobl leol i gymryd rhan yn yr achlysur byd-eang hwn ym myd chwaraeon.

Amlygwyd perygl yr her sydd ynghlwm wrth y Ras yr wythnos ddiwethaf pan gollwyd John Fisher, aelod o griw, i'r môr yng Nghefnfor y De yn ystod siwrne'r fflyd rhwng Seland Newydd a Brasil.Cafodd y drasiedi sylw byd-eang, ond mae'r Ras yn mynd yn ei blaen, ac ymhen saith wythnos yn unig, bydd yn croesi'r Iwerydd o Newport, Rhode Island i gyrraedd Caerdydd, lle bydd ymwelwyr ledled y byd yn cael cyfle i fynd yn agos at y fflyd, ac i ddysgu mwy am Gaerdydd.Mae gwirfoddolwyr bellach yn cael eu penodi i gynorthwyo yn y digwyddiad, felly gall unrhyw un sydd â diddordeb fynd ihttps://thesportshub-cardiff.com/?lang=CYneu ffonio02920 205283.

Mae Caerdydd wedi bod yn ffodus iawn o ran cynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr yn y blynyddoedd diwethaf - Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Cwpan Rygbi'r Byd, Gemau Olympaidd Llundain 2012 er enghraifft, ac mae pobl Cymru bob tro wedi ymateb yn wych i'r galw am wirfoddolwyr i helpu i wneud profiadau ymwelwyr yn fythgofiadwy ac yn llewyrchus i'r economi leol.

Mae angen 500 o wirfoddolwyr arnom i weithio yn Ras Fôr Volvo pan ddaw i Gaerdydd rhwng 27 Mai a 10 Mehefin ar ôl croesi'r trawsiwerydd.Un gwirfoddolwr sydd eisoes wedi cofrestru yw Hilary Coulson o'r Rhath sy'n 66 oed ac wedi ymddeol o fod yn nyrs. Mae wedi cael profiadau na fyddai erioed wedi breuddwydio amdanynt ers cofrestru fel gwirfoddolwr yng Nghaerdydd pan oedd yn Ddinas Groeso ar gyfer Llundain 2012.

 

Mae ei phrofiadau blaenorol yn cynnwys Cwpan PF 2011, twrnamaint rhyngwladol rygbi cadair olwyn; Hanner Marathon Caerdydd; Tlws Pencampwyr yr ICC; Pêl-droed y Gemau Olympaidd, Gwersylloedd Cyn y Gemau Paralympaidd; Super Cup UEFA; Cwpan Rygbi'r Byd, Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA; Cyfres y Lludw; Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd yr IAAF a llawer mwy. 

 

Felly beth sy'n ei denu?Dywedodd Hilary:"Mae'n rhaid mai fi yw'r gwirfoddolwr sydd â'r lleiaf o ddiddordeb mewn chwaraeon yng Nghaerdydd, ond dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth.Rwyf wedi mwynhau blynyddoedd o hwyl, a'r teimlad o fod yn rhan o dîm.Mae llawer o gyffro i'r digwyddiadau chwaraeon mawr hyn, ac rydych yn cyfarfod â phobl arbennig ac yn dod yn ffrindiau agos.Rwy'n ymwybodol o werth y digwyddiadau mawr hyn ar gyfer enw da ac economi Caerdydd a Chymru, ond rwy'n elwa cymaint arnynt yn bersonol hefyd.Rwy'n falch o gael dangos fy ninas i'r preswylwyr dros dro hyn, a chyda 50 diwrnod cyn i'r fflyd gyrraedd, rwy'n annog pobl i ddod i roi cynnig ar wirfoddoli ar gyfer Ras Fôr Volvo eleni, sy'n Flwyddyn y Môr yma yng Nghymru."

 

Bydd gŵyl am ddim sy'n para pythefnos ym Mhentref Ras Fôr Volvo a leolir wrth ymyl Morglawdd Bae Caerdydd, lle y bydd ymwelwyr yn gallu gweld y cychod, a dod o hyd i amrywiaeth o atyniadau ac adloniant yn thema'r Ras ar y glannau, gan gynnwys cerddoriaeth fyw a pherfformiadau o LEXICON, sef cynnig cyfoes ar dreftadaeth y syrcas, wedi'i greu gan NoFit State a Firenza Guidi o Gaerdydd. Bydd blas Cymreig i'r ŵyl hefyd gyda chynhyrchwyr o Gymru'n cynnig bwyd a diod wedi eu cynhyrchu'n lleol - o fariau yn cynnig cwrw da i'r stondinau bwyd stryd mwyaf poblogaidd.

 

Dechreuodd Ras Fôr Volvo, sy'n 45,000 milltir forol, o Alicante fis Hydref diwethaf, gan deithio'r moroedd ac aros yn rhai o gyrchfannau morol enwocaf y byd fel Hong Kong, Cape Town ac Auckland.Pan fydd y ras yn gadael Caerdydd ar 10 Mehefin, bydd yn symud i Gothenburg a'r Hâg ac yn dod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.

Ar ôl Ras Fôr Volvo, bydd Hilary yn cychwyn ar antur newydd sydd wedi dod drwy wirfoddoli... a hynny ym mhen draw'r byd.Bydd Hilary yn teithio i Seland Newydd ac Awstralia i ymweld â ffrindiau a gyfarfu wrth wirfoddoli ar gyfer tîm Paralympaidd Awstralia yng Nghaerdydd, yng Ngŵyl Rygbi'r Golden Oldies, ac yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2015 - ac wrth gwrs, bydd yn gwirfoddoli mewn gŵyl rygbi yn Seland Newydd yn ystod ei thaith.

 

https://www.cymraeg.volvooceanracecardiff.com/?force=2; www.croesocaerdydd.com/; http://croeso.cymru/