Beth am wneud rhywbeth gwahanol yng Nghaerdydd
Cynhaliwyd cynhadledd i ddod â sefydliadau ac unigolion sy'n awyddus i helpu pobl ddigartref yng Nghaerdydd ynghyd yn Neuadd Y Ddinas ddoe, gyda'r nod o sianelu cefnogaeth i rai o‘r dinasyddion mwyaf agored i niwed mewn ffordd fwy ffocysedig.
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i'r rhai sy'n angerddol dros fynd i'r afael â'r mater yn y ddinas i ystyried ffyrdd mwy cydweithredol a chreadigol o ganolbwyntio eu hymdrechion a'u hadnoddau i helpu.
Roedd y gynhadledd yn gyfle i fusnesau, sefydliadau, unigolion ac eglwysi ddysgu mwy am yr her hynod gymhleth a deall rhai o'r ffactorau sydd naill ai'n achosi digartrefedd neu'n atgyfnerthu'r broblem ac adnabod bylchau o ran cefnogaeth.
Meddai'r Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne,"Gyda niferoedd cynyddol o bobl yn cysgu ar strydoedd y ddinas, mae mynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn flaenoriaeth i'r Cyngor.
"Mae llawer iawn o ewyllys da a charedigrwydd ymhlith sefydliadau a grwpiau gwirfoddoli sydd eisiau gwneud gwahaniaeth ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn harneisio eu hangerdd ac yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer y bobl sy'n agored i niwed rydym i gyd yn ceisio eu helpu.
"Roedd yn fendigedig gweld cymaint o bobl sy'n frwdfrydig am wneud gwahaniaeth i bobl ddigartref yn y gynhadledd.
"Mae angen i ni i gyd ddeall bod hyn yn fater hynod gymhleth - yn fwy o lawer na rhoi to uwchben pen rhywun.Gallwn wneud hynny, gan fod ystod o ddarpariaeth yn y ddinas ond heb fynd i'r afael â'r materion eraill sy'n mynd law yn llaw â digartrefedd, ni fyddwn yn mynd i'r afael â'r broblem yn iawn.
"Roedd y digwyddiad yn gyfle i drafod yr hyn y gallwn ei wneud yn well gyda'n gilydd.Mae eisoes cymaint o waith ysbrydoledig yn cael ei wneud ac rydym mor ddiolchgar i'r holl rai sy'n rhoi eu hamser, eu hymdrechion a'u cefnogaeth."
Er mwyn dathlu ymrwymiad i weithio gyda'i gilydd,dechreuwyd ymgynghori ar Siarter Digartref yn y digwyddiad i drafod sut y gall busnesau, sefydliadau ac unigolion helpu i fynd i'r afael â digartrefedd yn y ddinas mewn nifer o ffyrdd.
Hefyd clywodd y cynrychiolwyr yn y digwyddiad gan gyn-gysgwr ar y stryd ynglŷn â'i brofiadau o fywyd ar y strydoedd a sut ddechreuodd ailadeiladu ei fywyd, yn ogystal â chyflwyniadau ar nifer o gynlluniau, gan gynnwys y ‘Boss Project' yn The Wallich a'r ymgyrch CAERedigrwydd, sef ffordd amgen i bobl roi arian i helpu unigolion symud i ffwrdd o ddigartrefedd.