Back
Mwy o ymwelwyr nag erioed yn heidio i Gaerdydd wrth i arbenigwyr y diwydiant baratoi ar gyfer Uwchgynhadledd Twristiaet

Mae mwy a mwy o dwristiaid yn dod i Gaerdydd yn ôl ffigurau cychwynnol sy'n dangos bod y ddinas wedi denu mwy o ymwelwyr nag erioed yn 2017.

Cymerwyd y wybodaeth o adroddiad STEAM sy'n mesur effaith economaidd twristiaeth.Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys y canlynol:

 

-         Cafodd twristiaeth effaith economaidd o £1.30 biliwn yn 2017, i fyny 7% o gymharu â 2016 a 6% o gymharu â 2015.

-         Yn ystod 2017 daeth 21.30 miliwn o bobl i'r ddinas, 5% yn fwy na'r flwyddyn gynt.

-         Arhosodd 2.06 miliwn o'r ymwelwyr hyn dros nos, cynnydd o 2% o gymharu â 2016.

-         Ymwelodd 19.24 miliwn o bobl â'r ddinas am y dydd, cynnydd o 5% o 2016.

 

Daw'r llwyddiant hwn wrth i rai o aelodau blaenllaw y fasnach twristiaeth a lletygarwch yn y rhanbarth baratoi i ddod ynghyd ar gyfer Uwchgynhadledd Twristiaeth Caerdydd.Nod y digwyddiad yw dod â meddylwyr arloesol ynghyd er mwyn rhyngweithio, ymgysylltu a hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan i ymwelwyr a busnes.

 

Mae Caerdydd, sef cyrchfan bwysicaf Cymru erbyn hyn i dwristiaid ac ymwelwyr (o ran enw da, proffil ac effaith), yn arbennig ar gyfer busnesau a digwyddiadau mawr, wedi rhagori wrth ddatblygu ei phroffil, ei statws a'i hapêl i ymwelwyr. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:"Mae'r sector twristiaeth yng Nghaerdydd yn bwysig iawn, yn cefnogi mwy na 14,000 o swyddi yn y ddinas ac yn cyfrannu £1.3 biliwn at ein heconomi.Mae gweithio gyda phartneriaid o bob rhan o'r ddinas wedi bod yn allweddol yn hyn o beth.

 

"Mae Uwchgynhadledd Twristiaeth Caerdydd yn gyfle i ddathlu gwaith y diwydiant twristiaeth.Mae Caerdydd wedi profi ei hun fel cyrchfan ymwelwyr o'r radd flaenaf, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn tynnu sylw at hyn. Fodd bynnag, mae hon yn farchnad gynyddol gystadleuol felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gydweithio ag aelodau o'r diwydiant i alinio ein hadnoddau a chanolbwyntio ein hymdrechion.Bydd y gyd-ymdrech hon yn ein helpu i greu rhywbeth newydd a chyffrous yma yng Nghaerdydd ac mae Uwchgynhadledd Twristiaeth Caerdydd yn rhoi'r llwyfan perffaith i ni wneud hynny."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russel Goodway:"Mae twristiaeth wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant economi'r ddinas dros y degawdau diwethaf.Rydym yn ymrwymedig i barhau â'r llwyddiant hwn drwy weithio gyda phartneriaid yn y sector i fuddsoddi mewn projectau fel yr Arena Dan Do newydd i ddenu mwy o ymwelwyr i'n dinas."

 

Enillodd Caerdydd y wobr Digwyddiad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol 2018, a hynny am Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2017. Dangosodd y ddinas ei bod yn gallu cynnal sioe wefreiddiol ar gyfer cynulleidfa fyd-eang o fwy nag 1bn.

Mewn ychydig fisoedd bydd Caerdydd yn croesawu Ras Fôr Volvo - bydd y gyfres hwylio flaenllaw yn galw yng Nghymru am y tro cyntaf erioed o 27 Mai i 10 Mehefin 2018.  

Hefyd yn dychwelyd ar ôl 10 mlynedd fydd Eisteddfod Genedlaethol 2018, gŵyl ddiwylliannol fwyaf Cymru.Mae'r ŵyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn dros gyfnod o bythefnos, ac eleni fydd y flwyddyn gyntaf heb Faes traddodiadol - bydd yr ŵyl ar agor i bawb ar draws y ddinas.

Mae cynlluniau'n mynd rhagddynt i wneud Caerdydd yn 'Ddinas Gerdd' gyntaf y DU, gyda'r gobaith o ddyrchafu enw da'r ddinas i'r un lefel â Berlin a Barcelona yn y sector hwn.

Croeso Caerdydd yw'r sefydliad marchnata, twristiaeth a phartneriaeth swyddogol ar gyfer hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan ar gyfer ymweliadau, cyfarfodydd a buddsoddiad.

 

Bydd Uwchgynhadledd Twristiaeth Caerdydd yn digwydd ddydd Llun 19 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.visitcardiff/cardifftourismsummit2018.

#UwchgynhadleddTwristiaethCaerdydd