Ysgol Gynradd Bryn Hafod yn Llanrhymni, Caerdydd, yw'r ysgol gyntaf yng Nghymrui dderbyn achrediadMini Me Yoga.
DefnyddirMini Me Yogatrwy'r byd ac mae llwyddiant Ysgol Bryn Hafod wedi rhoi Cymru ar y rhestr o 30 gwlad sy'n ei ddefnyddio.
Er mwyn ateb gofynion Achrediad Mini Me Yoga a chael y statws Ysgol Mini Me Yoga, mae gan yr ysgol 80 aelod staff, o athrawon i gynorthwywyr addysgu, staff ategol a staff arlwyo.Yn dilyn hyfforddiant trylwyr, mae'r ysgol bellach yn defnyddio rhaglenniMini Me Yogayn rhan o'i hamserlen wersi wythnosol.
Dywedodd y Pennaeth, MrsRhian Lundrigan:"Rydyn ni wedi'n cyffroi yn lân gan mai ni yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i'w hachredu fel ysgolMini Me Yoga.Un o flaenoriaethau'r ysgol eleni yw hyrwyddo iechyd meddwl a lles a chadarnhaol ar gyfer yr holl staff a disgyblion.
"Fel rhan o'r flaenoriaeth hon, roedden ni am hyrwyddo a gwerthuso datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.Mae ein sesiynauMini Me Yogayn cefnogi hyn trwy annog ein disgyblion i archwilio a myfyrio ar bwrpas bywyd, achos ac effaith, gwydnwch, rhwystrau, perthnasau, teimladau ac emosiynau.Mae hefyd yn datblygu cryfder, hyblygrwydd, stamina, yn gostwng tensiwn, straen meddwl a gorbryder ac yn codi hunan-barch a hyrwyddo effeithlonrwydd personol.
"Mae disgyblion yn cael eu cymell ac yn gallu canolbwyntio am gyfnodau hir.Mae'r disgyblion yn mwynhau'r amgylchedd tawel, braf rydyn ni'n ei greu yn ystod y sesiynau hyn ac mae'n bleser eu gweld nhw'n mwynhau gymaint o ymarfer corff gwahanol i'r arfer iddyn nhw."
Mae'rMini Me Yogayn rhoi'r gallu i blant ddeall a rheoli eu teimladau trwy ddefnyddio anadlu, myfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar.Mae'n cynyddu capasiti plant i ddysgu a bod yn addfwyn â'i gilydd, mae'n addysgu parch at natur a sut mae tyfu'n gryf yn feddyliol ac yn corfforol.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry:"Rwy' am longyfarch yn fawr i Mrs Lundrigan, ei staff ac yn arbennig holl blant a chymuned yr ysgol am weithio mor galed i wneud Bryn Hafod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediadMini Me Yoga.
"Dyma enghraifft wych o'r hyn y mae ein holl ysgolion yng Nghaerdydd gyfan yn ei wneud i sicrhau iechyd a lles yr holl ddisgyblion.Alla' i ddim aros i weld y plant yn rhoi yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu ar waith y tro nesaf y bydd Mrs Lundrigan yn fy nghroesawu i Ysgol Gynradd Bryn Hafod."
Mae rhaglen Mini Me Yoga ychydig yn wahanol i'r rhai y mae sefydliadau ioga i blant eraill yn eu cynnig. Mae'n hyfforddi rhieni ac athrawon i rannu rhaglen 15 munud syml â'r plant.Golyga hyn y gellir ymgorffori ioga ym mywyd bob dydd y plant.
Dywedodd sefydlyddMini Me Yoga, Kate Bartram-Brown:"Yn yr oes hon pan yw'r clefyd siwgr, anoddefgarwch bwyd a gorfywiogrwydd yn codi ym mhoblogaeth plant, mae'r gemau a'r gweithgareddau'n rhoi amser y mae mawr ei angen i blant greu a mynegi eu hunain."