Back
Technoleg cyfraniadau elusennol digyswllt gyntaf Cymru yn lansio yn y brifddinas i helpu i leihau digartrefedd

Technoleg cyfraniadau elusennol digyswllt gyntaf Cymru yn lansio yn y brifddinas i helpu i leihau digartrefedd


Am y tro cyntaf, gall pobl yng Nghaerdydd nawr ddefnyddio eu cardiau debyd neu gredyd digyswllt i roi i’r rheiny sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref fel rhan o gynllun rhoi newydd, CAERedigrwydd. 

Wedi’i hariannu trwy FOR Cardiff, mae sgrin ryngweithiol gyda Sam Warburton o Gleision Caerdydd wedi’i gosod ar yr Aes. Mae’r sgrin a’r dechnoleg y tu ôl iddi yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu trwy dapio eu cerdyn di-gyswllt ar y ffenestr unrhyw adeg o'r dydd neu nos.

Am bob tap, caiff ffi o £2 ei roi tuag at grantiau bach i’r rheiny sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Caiff y grantiau eu dosbarthu trwy wasanaethau rheng flaen y ddinas a chaiff cyfraniadau eu dyblu diolch i Four Acre Trust.

Cafodd CAERedigrwydd ei lansio ym mis Tachwedd 2017 i annog pobl sy’n ymweld â’r ddinas ac sy’n byw yn y ddinas i feddwl yn wahanol am sut maen nhw’n rhoi i’r rheiny sy’n cardota, yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Yn bartneriaeth rhwng FOR Cardiff, The Big Issue Cymru, Cyngor Caerdydd, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth, Heddlu De Cymru, The Wallich a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae CAERedigrwydd yn amlygu’r gwasanaethau a ddarperir i helpu i fynd i’r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas, yn ogystal â chodi arian i roi grantiau i unigolion sydd mewn perygl.

Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff, Ardal Gwella Busnes y ddinas: “Mae adborth gan y busnesau yn yr Ardal Gwella Busnes yn amlygu bod taliadau arian yn mynd yn brinnach ac, yn ôl erthyglau, yn yr wyth i ddeng mlynedd nesaf rhagwelir mai dim ond 21% o bryniannau fydd yn cael eu gwneud gydag arian.

Dyma pam ein bod ni wedi bod yn gweithio â’r gwasanaethau rheng flaen i fynd i’r afael â digartrefedd ledled y ddinas i feddwl am sut i symud ymlaen a sicrhau bod pobl garedig Caerdydd yn gallu rhoi i’r bobl y maen nhw’n eu gweld ar y strydoedd, hyd yn oed os nad oes ganddynt arian parod.”

Ychwanegodd Beth Thomas, Rheolwr Rhanbarthol The Big Issue Cymru: “Gyda chynnydd yn y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd, roedden ni'n awyddus i fod yn rhan o ddull aml-asiantaeth i roi cymorth i bobl sydd ag anghenion lluosog a chymhleth. Rydyn ni wedi gweld technoleg digyswllt yn llwyddo fel ffordd wahanol o roi mewn ardaloedd eraill, ac roedden ni eisiau rhannu hynny â Chaerdydd.” 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne: “Nod CAERedigrwydd yw rhoi terfyn ar y cylch o ddigartrefedd a symud pobl i ffwrdd o gysgu ar y stryd drwy roi cymorth ystyrlon trwy grantiau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i unigolion.

"Mae mynd i’r afael â chysgu ar y stryd a digartrefedd yn y ddinas yn flaenoriaeth i’r Cyngor a, thrwy CAERedigrwydd, gall pawb ein helpu i fynd i’r afael â’r broblem er mwyn i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas allu dechrau ailadeiladu eu bywydau.”

Dywedodd Sam Warburton, chwaraewr Gleision Caerdydd, sydd ar y sgrin yn annog pobl i ryngweithio â'r taliadau digyswllt: “Wedi cael fy magu yng Nghaerdydd, rwyf wedi sylwi ar gynnydd o ran nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd, yn enwedig yn ddiweddar, felly roeddwn yn awyddus i gefnogi’r dull cydweithredol hwn a helpu i godi ymwybyddiaeth o CAERedigrwydd fel ffordd newydd o roi.”

Caiff cyfraniadau eu rheoli gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, lle gall sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector ymgeisio am grantiau o rhwng £250 a £750 i helpu’r unigolion sydd â’r angen mwyaf.

Caiff deg y cant o’r cyllid ei glustnodi ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda’r rheiny sydd mewn perygl o Brofiadau Plentyndod Negyddol i atal y genhedlaeth nesaf rhag dod yn ddigartref neu orfod gwneud gweithgareddau stryd fel cardota.

Gyda chymorth ariannol y Four Acre Trust, rhoddir £2 ychwanegol am bob £2 a roddir trwy daliad digyswllt, sy’n troi cyfraniad pob unigolyn o £2 i £4. 

Bydd y cyhoedd yn gallu cyfrannu trwy’r dechnoleg digyswllt tan ddydd Sul 25 Mawrth neu drwy anfon neges destun gyda’r gair DIFF20 wedi’i ddilyn gyda’r swm yr hoffech ei gyfrannu at 70070.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.caeredigrwydd.cymru neu dilynwch @GiveDIFFerently