Back
Dave yn mynd gam ymhellach

DAVE YN MYND GAM YMHELLACH

 

Mae arwr o gyflogai o Gyngor Caerdydd wedi gwneud ei orau glas i achub pobl.

 

Mae Dave Sultana fel arfer yn gweithio yng ngwasanaethau rheoli gwastraff yr awdurdod ond dros y diwrnodau diwethaf bu’n rhan o fflyd 4x4 y Cyngor a fu’n cefnogi gwasanaethau i fodloni anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas.

 

Ers oriau mân y bore, bu Dave allan mewn cerbyd 4x4 ar draws yn ddinas yn helpu pobl sy’n cael anawsterau oherwydd yr eira trwm.

 

Roedd ei gampau mentrus yn cynnwys palu ambiwlans allan o’r eira ar Ball Road, Llanrhymni, towio car nyrs allan o’r eira fel y gallai fynd i’r gwaith yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac achub tri cherbyd arall ar Heol Casnewydd.

 

 

Ar ben hynny, gyrrodd y Samariad Trugarog deulu cyfan i Fynwent y Ddraenen i fod yn bresennol mewn angladd ar ôl mynd yn sownd ym Mhenylan.

 

Dywedodd Dave, sy’n gweithio i’r cyngor ers 12 mlynedd: “Rwyf wedi mwynhau heddiw yn fwy nag unrhyw ddiwrnod arall yn gweithio i’r Cyngor. Mae wedi bod yn wych.

 

 “Dywedodd fy rheolwr wrtha i, “Cei di dynnu dy glogyn nawr, Dave, dwyt ti ddim yn gallu helpu neb arall. Ond doeddwn i ddim yn gallu helpu fy hun, roedd rhaid i mi stopio a helpu pobl.

 

Mae’n bosibl bod wyneb Dave yn gyfarwydd i lawer yn ddinas gan mai ef yw un o’r ‘bechgyn poster’ yn ymgyrch Gweithio i Chi y Cyngor lle y bu cyflogeion go iawn y cyngor yn ymddangos ar hysbysebion safleoedd bysiau a bysiau ac mewn adeiladau’r Cyngor i hyrwyddo gwasanaethau’r Cyngor.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: “Mae ymdrechion Dave yn enghraifft wych o pa mor galed mae gweithwyr y cyngor wedi gweithio dros y cyfnod hwn o dywydd garw i helpu pobl mewn angen. Mae wir wedi mynd gam ymhellach ac rwyf eisiau diolch iddo yn bersonol am hynny.

“Mae llawer o’n cyflogeion wedi bod yn gweithio ddydd a nos, yn brwydro yn erbyn amodau anodd iawn i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu clirio, prydau ar glud yn cael eu dosbarthu, a bod pobl hŷn a plant sy’n derbyn gofal yn ddiogel ac yn derbyn sylw. Rwyf wedi clywed adroddiadau gwych o staff yn mynd gam ymhellach i sicrhau ein bod yn gallu bodloni anghenion y rhai mwyaf agored i niwed yn y ddinas, gan gynnwys ein tîm ymestyn arall sy’n helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd. Gallwn barhau a pharhau ond rwy’n ofni gadael rhywun allan, felly rwyf eisiau diolch i bob aelod o staff a ymdrechodd i’r eithaf yn ystod y rhybudd tywydd garw hwn.”