Back
Cynghori ysgolion Caerdydd i aros ar gau fory, Dydd Gwener 2 Mawrth

Oherwydd y rhybudd tywydd eithafol, mae Cyngor Caerdydd yn cynghori pob ysgol i aros ar gau fory, Dydd Gwener 2 Mawrth. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru ei rhagolygon ar gyfer heddiw a fory a chyhoeddi Rhybudd Coch, y lefel risg uchaf, sy'n weithredol o 3.00pm heddiw i 2.00am fory, Dydd Gwener 2 Mawrth. 

Mae'r rhagolygon yn datgan: 

"Disgwylir cyfnod o eira trwm ac amodau storm eira.Bydd gwyntoedd dwyreiniol cryf iawn yn dod ochr yn ochr â'r eira, gan arwain at luwchio difrifol.Gallai cryn dipyn o iâ gronni hefyd mewn rhai mannau oherwydd glasrew yn hwyrach ar nos Iau." 

O ystyried hyn, a'r tywydd tebygol ddydd Gwener,mae'r awdurdod lleol yn cynghori pob ysgol i gau fory i ddisgyblion a staff.  

Penderfyniad terfynol y Pennaeth a Chadeirydd y Llywodraethwyr fydd cau ysgol.Felly, dylai rhieni gadw llygad allan am negeseuon gan eu hysgolion am y wybodaeth ddiweddaraf. 

Er bod y rhagolygon tywydd ar gyfer y penwythnos yn awgrymu rhywfaint o welliant yn yr amodau, dylai ysgolion fonitro adroddiadau tywydd dros y penwythnos cyn gwneud penderfyniad ynghylch agor yr ysgol ddydd Llun 5 Mawrth.Bydd y Cyngor hefyd yn monitro'r sefyllfa ac yn cynnig cyngor pellach dros y penwythnos os oes angen.