Back
Caffi demensia newydd i Lyfrgell Treganna

Caffi demensia newydd i Lyfrgell Treganna

 

Bydd caffi demensia newydd yn cael ei lansio yn y ddinas wythnos hon.

 

Bydd y caffi newydd yn Llyfrgell Treganna yn estyn croeso cynnes i'r gofod diogel hwn i'r rheini sy'n byw gyda demensia, eu gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol.

 

Bydd y caffi'n agor am y tro cyntaf ddydd Mercher 28 Chwefror, 2.30-3.30pm, gyda lluniaeth am ddim, a bydd ar agor ar ddydd Mercher olaf pob mis.

 

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant:"Y llynedd, agorodd y Caffi Demensia yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ac rydym wrth ein bodd o ddilyn llwyddiant y fenter honno â chaffi arall yn Llyfrgell Treganna.

 

"Gwahoddir pobl sy'n byw â demensia, eu gofalwyr a'u teuluoedd i gwrdd yn y caffi a mwynhau paned a chael cyfle i gwrdd ag eraill, cael gafael ar wybodaeth a dysgu mwy am wasanaethau mewn amgylchedd diogel a chymdeithasol.

 

"Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru ar fod yn gymuned sy'n gefnogol a chynhwysol i bobl â demensia, ac mae mentrau fel ein caffis demensia yn chwarae rhan yn y gwaith o adeiladucymdeithas sy'n deall demensia i helpu'r rheini yr effeithir arnynt i fyw bywydau gwell a mwy cyflawn."

 

Yn ogystal â'r caffi demensia newydd yn Llyfrgell Treganna, mae'r caffi demensia yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar agor ar ddydd Iau cyntaf a thrydydd dydd Iau y mis yn ystafell gyfarfod y pedwerydd llawr.