Back
Cabinet yn cymeradwyo cynigion y gyllideb

 

Cabinet yn cymeradwyo cynigion y gyllideb

 

 

Mae ysgolion newydd, ffyrdd gwell, canolfan ailddefnyddio/ailgylchu newydd a buddsoddiad mewn seilwaith beicio sydd werth miliynau o bunnoedd yn rhai o'r cynigion yng nghyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2018/19.

 

Cytunwyd y cynigion gan Cabinet y Cyngor heddiw ac maent bellach yn mynd ymlaen i'r Cyngor Llawn ar Ddydd Iau, Chwefror 22 i'w cymeradwyo.

 

Dywedodd y Cyng. Chris Weaver, sef yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Rydym wedi gwrando ar safbwyntiau preswylwyr ac wedi ceisio creu Cyllideb sy'n darparu i bobl Caerdydd ac rydym wedi gwneud hyn yng nghyd-destun blynyddoedd o doriadau digynsail i gyllidebau llywodraeth leol.

 

"Bydd unrhyw un a fu'n dilyn y newyddion yn gwybod bod cynghorau ledled y DU yn cael trafferth cadw deupen y llinyn ynghyd ac mae'n rhaid i gyfraddau'r Dreth Gyngor godi er mwyn gwneud yn iawn am hyn. Nid yw Caerdydd yn wahanol, ond rydym yn uchelgeisiol o ran ein prifddinas. Rydym am i Gaerdydd fod yn lle gwych i fyw ynddo ac yn lle gwych i wneud busnes ynddo ac rydym yn gosod rhaglen rydym yn credu y bydd yn dod â'r gorau i'n preswylwyr.

 

"Rydym yn mynd i wella ysgolion y ddinas, ffyrdd y ddinas a'r seilwaith trafnidiaeth, hamdden a thai yn y ddinas ac rydym yn mynd i helpu i greu swyddi er mwyn i bawb allu profi'r buddion rydym am eu creu yn ein dinas."

 

Cafodd y cynlluniau uchelgeisiol eu cyhoeddi yn Adroddiad Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 a ddatgelodd hefyd y gallai'r Dreth Gyngor gael ei gosod ar gyfradd o 5% wrth i'r awdurdod geisio pontio bwlch o £25 miliwn yn y gyllideb.

 

Dywedodd y Cyng Weaver: "Er ein bod yr un mor uchelgeisiol â phobl Caerdydd ar gyfer y ddinas, mae angen cydnabod nad yw caledi wedi diflannu.  Wrth symud ymlaen, rydym yn wynebu bwlch posibl yn y gyllideb o £91 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Felly mae'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud yn mynd yn anos ac yn anos, a byddwn yn cael ein gorfodi i wynebu dewisiadau difrifol ynghylch rhai gwasanaethau yn y dyfodol. Mae cydbwyso ein huchelgeisiau ar gyfer y ddinas a'r angen i barhau i dorri cyllidebau yn weithred sensitif ac mae angen i breswylwyr ddeall hynny."

 

Mae pedwar peth y gall y Cyngor eu gwneud er mwyn cau'r bwlch yn y gyllideb:

•Cynyddu'r dreth gyngor;

•Defnyddio arian wrth gefn;

•Capio'r twf o ran cyllidebau ysgolion;

•Gwneud arbedion.

 

Bydd y Gyllideb yn cau'r bwlch drwy:

 

 

•Osod Cap Ysgolion o £2.2m

•Defnyddio cronfeydd wrth gefn - £2.3m

•Gwneud arbedion a chreu incwm - £14.3m

•Cynyddu'r Dreth Gyngor i 5% gan godi £6.4m

 

Dywedodd y Cyng Weaver: "Buom yn meddwl yn hir ac yn ddwys am godi'r Dreth Gyngor i 5%, ond dangosodd ein hymgynghoriad ar y gyllideb fod pobl eisiau gweld gwella adeiladau ysgolion a'r ffyrdd a'u bod eisiau i'r ddinas lewyrchu a brasgamu yn ei blaen.

 

"Bydd y cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor yn cyfrannu at ein helpu i wneud hynny. Mae'n gyfwerth â £1.05 yr wythnos ar eiddo Band D a bydd yn creu £6.4 miliwn arall o incwm, sef arian y mae ei angen arnom os ydym am wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol a diogelu'r gwasanaethau craidd rydym oll yn dibynnu arnynt.

 

"Bu'n rhaid i Gyngor Caerdydd wneud gwerth £200 miliwn o arbedion yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, a £105 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf yn unig. Bob blwyddyn mae'n mynd yn anos ac yn anos. Rydym wedi cadw ein hymrwymiad i gadw'r llyfrgelloedd ar agor, wedi rhoi £7 miliwn o arian ychwanegol i ysgolion ac wedi gosod cyllideb sy'n buddsoddi yn nyfodol Caerdydd.

 

"Mae angen i ni barhau i foderneiddio'r ffordd rydym yn gweithio er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau bosibl ar gyfer trethdalwyr, ond hefyd mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r trigolion. Nid yw caledi wedi dod i ben. Os ydym am barhau i ddarparu'r gwasanaethau y mae preswylwyr y ddinas eu heisiau a pharhau i sicrhau bod Caerdydd yn lle gwell fyth i fyw ynddo, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o godi'r arian er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd yng nghyd-destun cyllideb sy'n crebachu a galw cynyddol wrth i'n poblogaeth dyfu."

 

Mae cyfanswm cyllideb bresennol y Cyngor yn £587 miliwn, ond ar hyn o bryd caiff bron i 65% (£378 miliwn) o hyn ei wario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae'r ddau faes yn wynebu pwysau o du galw sy'n codi wrth i boblogaeth y ddinas dyfu.

 

Dywedodd y Cyng Weaver: "Mae pob 1% o gynnydd yn y Dreth Gyngor yn codi tua £1.3 miliwn, ac mae £25 m o ddiffyg eleni, felly ni fydd y Dreth Gyngor yn unig yn cau'r bwlch. Mae'n rhaid i ni bennu arbedion a chynhyrchu incwm mewn amrywiaeth o ffyrdd er mwyn gosod y gyllideb hon, ond mae'n gyllideb rydym yn credu y bydd yn dod â budd i'r ddinas a'i thrigolion."

 

 

Mae'r adroddiad y Gyllid ar gael ar wefan y Cyngor yma:http://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s20128/15%20February%202018%20Month%209%20Monitoring%20Report.pdf?LLL=0

 

 

Cyllideb Caerdydd 2018/19 - Enghreifftiau o sut bydd y Gyllideb yn buddsoddi yn y dyfodol dros y pum mlynedd nesaf

 

Creu Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru a Chaerdydd

£10.4 miliwn o gymorth ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

£22m ar fentrau datblygu economaidd

£29 miliwn o fuddsoddiad mewn asedau seilwaith priffyrdd

£10 miliwn i ddatblygu llwybrau beicio strategol ac annog teithio llesol

£0.75m ar adnewyddu Marchnad Caerdydd

 

Addysg aphobl ifanc

£36.7 miliwn - rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (cwblhau Band A)

£280.3 miliwn - rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (Band B)

Buddsoddiad o £43 miliwn yn yr ystâd bresennol ysgolion

£7 miliwn o gymorth refeniw ychwanegol ar gyfer ysgolion

£5.8 miliwn o gymorth refeniw ychwanegol i Wasanaethau Plant (+11%)

£1 miliwn o fuddsoddiad mewn offer chwarae mewn parciau

£0.2 miliwn o gyllid refeniw er mwyn cefnogi Addewid Caerdydd a Phrentisiaethau Iau

 

Cefnogi pobl allan o dlodi

£176 miliwn o fuddsoddiad hir dymor mewn tai cymdeithasol ac ystadau tai, gan gynnwys o leiaf 1,000 o gartrefi cyngor newydd

£0.8m o gyllid refeniw i fynd i'r afael â digartrefedd

Ymrwymiad cyfredol i'r Cyflog Byw gwirfoddol

 

Cefnogi pobl hŷn

£1 miliwn i gwblhau gwaith yng Nghanolfannau Dydd y Tyllgoed a Grand Avenue er mwyn cefnogi pobl sydd â demensia.  

£31.3 miliwn o addasiadau i bobl anabl er mwyn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi (oedolion a phlant)

£2.6 miliwn o gymorth refeniw ychwanegol i Wasanaethau Oedolion (+2.4%)

 

Cymunedau mwy diogel

£1.2 miliwn i sefydlu cyfleuster amlasiantaeth yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd i gefnogi'r rhai sydd mewn perygl o a dioddefwyr cam-drin domestig

£1.4 miliwn ar hyb ieuenctid yng nghanol y ddinas a phafiliwn Butetown

£2.1 miliwn ar gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd

£5.2 miliwn ar ganolfannau siopa cymunedol ac adfywio cymdogaethau

 

Rheoli twf yn y boblogaeth

£9.2 miliwn ar gynaliadwyedd a chynhyrchu ynni 

£6.3 miliwn o gymorth ychwanegol ar gyfer gweithgarwch ailgylchu gan gynnwys cyfleuster ailgylchu newydd ar gyfer gogledd y ddinas

£2.2 miliwn i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer erydu arfordirol

 

Cliciwch yma i weld sut mae'r Cyngor yn bwriadu defnyddio rhywfaint o'r gyllideb yn 2018/19