Back
Deall yr angen am Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Y Cartref yn y Dyfodol

Deall yr angen am Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Y Cartref yn y Dyfodol

Cafodd yr angen am ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref (CAGC) newydd yn y ddinas ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd heddiw.

Mae'r Cabinet wedi rhoi awdurdod i ystyried yr angen am unrhyw CAGCau newydd - ac os gwelir bod angen, i ddatblygu achos busnes ac edrych ar opsiynau posibl ar gyfer safle.

Dywedodd y Cyng Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Pan fyddwn yn ystyried unrhyw safleoedd CAGC posibl yn y dyfodol, rwy'n credu ei fod yn bwysig ein bod yn sylweddoli bod eu lleoli mewn ardaloedd preswyl yn niwsans i breswylwyr sy'n byw cyfagos, gyda sŵn o'r gweithrediadau, yn ogystal â'r aflonyddwch gan geir a cherbydau gweithredu sy'n mynd a dod yn y cyfleuster. Yn amlwg mae angen i ni ystyried y materion hyn ar gyfer y dyfodol pan fyddwn yn edrych ar unrhyw safleoedd posibl ar gyfer CAGCau."

"Gan bod poblogaeth y ddinas ar fin cynyddu yn y blynyddoedd i ddod, mae'n glir y bydd gofyn am CAGC ychwanegol. Fodd bynnag, mae angen i ni ymchwilio i hyn yn drylwyr ac mae angen i ni fod yn sicr, os bydd CAGC arall, y bydd yn rhoi gwerth am arian, gwerth i'r preswylwyr a gwerth i'r amgylchedd.

 "Os byddwch yn edrych ar ddinasoedd eraill, sy'n debyg o ran maint i Gaerdydd - mae'n amlwg bod y ddau safle enfawr sydd gennym yn Ffordd Lamby a Bessemer Close yn ddigonol ar gyfer ein poblogaeth. Ond rwy'n sylweddoli, gyda'r cynnydd a ragamcenir o ran poblogaeth, mae'n bosibl y bydd angen am gyfleuster ychwanegol yn y dyfodol.

 "Dyma pam mae mor bwysig llunio achos busnes, fel y gallwn adnabod safle posibl, deall faint y byddai'n costio a deall pryd bydd angen cyfleuster o bosibl.

"Nawr, mae gennym gytundeb gan fy nghyfeillion yn y cabinet, dyna yn union beth fydd yn digwydd, fel y gallwn gynllunio am y dyfodol a dod â chynnig manwl gerbron y cabinet pan fydd y gwaith wedi'i orffen".

Yn 2012, datgelodd adolygiad o weithrediadau'r holl CAGCau yng Nghaerdydd - Ffordd Lamby, Bessemer Close, Heol Wedal a Ffordd Waungron, fod y safleoedd yn gweithredu ar 60% o'u capasiti yn unig. Yn dilyn yr asesiad hyn ac oherwydd pwysau cyllidebol, cymerwyd penderfyniad i gau ddau o'r cyfleusterau hyn.