Back
Rhestr westeion wefreiddiol a straeon gwych i blant sy'n dwlu ar lenyddiaeth yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd 2018

Bydd athrawon a dylunwyr enwog unwaith eto yn dod â chymeriadau lliwgar a straeon gwych i ysbrydoli a diddanu plant sy'n dwlu ar lenyddiaeth y gwanwyn hwn, wrth i Ŵyl Llên Plant Caerdydd ddychwelyd i brifddinas Cymru dros ddau benwythnos ym mis Ebrill. (Dydd Sadwrn 21/dydd Sul 22 a dydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Ebrill)

Bydd dros 40 o ddigwyddiadau cyffrous yn rhan o'r ŵyl benigamp, yn Gymraeg a Saesneg, mewn lleoliadau enwog ar draws y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas ac Amgueddfa Cymru.

Nod yr ŵyl, sydd ar gyfer plant 3-11 oed yn bennaf, yw creu darllenwyr hyd oes ac mae'n para dros ddau benwythnos gyda sesiynau ysgol am ddim yn ystod yr wythnos.

Yn y flwyddyn sy'n nodi canmlwyddiant mudiad y swffragetiaid, mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys rhestr westeion benywaidd ysbrydol gan gynnwys y cyflwynydd teledu Cymraeg, y rhedwr marathon a'r rebel, Lowri Morgan, sydd wedi ysgrifennu addasiad Cymraeg o'r llyfr poblogaidd Good Night Stories for Rebel Girls, (Straeon Nos Da i Bob Rebel o Ferch) yn ogystal â digwyddiad arbennig gyda Louise Kay Stewart, awdur a dylunydd Rebel Voices, sy'n dathlu hanes merched a fu'n ymgyrchu ledled y byd i ennill y bleidlais, sydd wedi'i ddylunio'n brydferth gan Eve Lloyd Knight.

Blwyddyn y Môr Croeso Cymru yw 2018 hefyd a bydd unrhyw blant sy'n hoff o fôr-forynion yn mwynhau Bad Mermaids gyda Sibéal Pounder, lle mae'r awdur yn dweud beth ydy beth am y creaduriaid morol mytholegol hyn yn ei chyfres newydd o straeon.

Mae uchafbwyntiau eraill yr ŵyl yn cynnwys parti Harry Potter yn Neuadd y Ddinas, lle y gall dilynwyr ymgolli ym mywyd Hogwarts; cyfle i greu comig gyda'r artist Huw Aaron, perfformiad llyfr caneuon gwirion gyda'r diddanwr doniol Nick Cope a chyfle arbennig i gwrdd â Gaspard y Cadno gyda darlledwr y BBC, Zeb Soanes, a sesiwn amser stori gyda hoff dedi-bêr, Paddington.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd sy'n cael ei chynnal am y chweched tro eleni wedi mynd o nerth i nerth, yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle i fynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau â'r bwriad o annog ac ysbrydoli hoffter o ddarllen ac ysgrifennu.

"Mae gŵyl 2018 yn argoeli arbennig wrth i ni goffau 100 mlynedd ers mudiad y swffragetiaid gyda llu o awduron benywaidd ysbrydoledig. Sesiynau ysgol am ddim a digwyddiadau cyhoeddus gwych i blant o bob oed, o'r babanod i'r rhai yn eu harddegau, rydym yn gobeithio sicrhau mai gŵyl eleni yw'r fwyaf erioed."  

Bydd yr ŵyl yn cynnwys tomen o weithdai ysgrifennu creadigol, sesiynau crefft lenyddol a digwyddiad arbennig gyda Tom Palmer - ysgrifennydd swyddogol cynllun Sêr Darllen yr Uwch-gynghrair ac arbenigwr blaenllaw ar ddatblygu darllen a thechnegau i annog bechgyn i ddarllen.

Cynhelir digwyddiadau Cymraeg a dwyieithog trwy gydol yr ŵyl, gan gynnwys gweithdy LEGO Lit gyda Catrin Wyn Lewis, parti o straeon a mudiad gyda Heini o sioe Cyw S4C, a'r cyhoeddwr Atebol a digwyddiad mythau a chwedlau Cymru gyda Chynfardd Plant Cymru, Aneirin Karadog.

Mae mwy o wybodaeth am docynnau ynhttps://www.ticketsource.co.uk/kidslitfest

@GwylLlenPlant

@croesocaerdydd

Facebook GwylLlenPlant