Back
Gwasanaethau digartrefedd yng Nghaerdydd
  • Mae'r cyngor yn helpu nifer o bobl sy'n ddigartref ac mae darpariaeth eang ar gael, o lety dros dro statudol i bobl y mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd tuag atynt, i lety â chymorth arall drwy'r Porth Pobl Unigol a'r Porth Pobl Ifanc.

 

  • Mae mynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni Strategaeth Cysgu Ar Y Stryd, gan gynnwys mabwysiadu polisi ‘Dim Noson Gyntaf Allan' a threialu dulliau newydd, gan gynnwys model ‘Tai'n Gyntaf' sy'n symud pobl sy'n cysgu ar y stryd i gartref parhaol.

 

Mwy ar ein gwasanaethau

 

  • Ar y cyfan mae gennym 216 o lefydd hostel i bobl ddigartref unigol, 45 o welyau brys, a 390 o unedau llety â chymorth.

 

Dros y gaeaf, mae 86 gwely brys ychwanegol sy'n fwy nag erioed o'r blaen

  • Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartrefedd fel Huggard, Byddin Yr Iachawdwriaeth, Wallich a'r YMCA i ddarparu llety hostel, y rhediad brecwast, canolfan ddydd i bobl ddigartref, a gwasanaeth bws nos.

 

 

  • Rydym yn ymrwymedig i weithio gydag unigolion i'w helpu i fanteisio ar wasanaethau ac mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos yn ystod y dydd a gyda'r nos i gysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd.

 

  • Ynghyd â'n partneriaid rydym wedi helpu 119 o bobl sy'n cysgu ar y stryd symud i lety rhwng Ebrill a Hydref eleni.

 

  • Mae ystod eang o wasanaethau holistig ar gael bob dydd i unigolion gan gynnwys gwasanaethau meddygol, iechyd meddwl a chyffuriau ac alcohol ynghyd â gwasanaethau llety.

 

 

  • .

 

  • Mae unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn aml â materion cymhleth iawn ac mewn rhai amgylchiadau maent yn dewis peidio â defnyddio ein llety, ac yn cysgu ar y stryd am flynyddoedd lawer. Yn yr amgylchiadau hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol â nhw bob dydd.

 

Mae tua 40% o bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd yn dod o'r tu allan i'r ddinas a heb gysylltiadau lleol. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau, felly pan fo'n briodol gweithiwn gyda phartneriaid i'w helpu i ail-ymgysylltu'r unigolion hyn â'u hardaloedd cartref.

 

  • Rydym wedi cytuno'n ddiweddar i ariannu nifer o brojectau tai arloesol i helpu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas a bydd y projectau hyn yn dechrau'n fuan.