Back
Creu prifddinas sy'n gweithio dros Gaerdydd a Chymru

Mae creu prifddinas lwyddiannus sy'n gweithio dros breswylwyr Caerdydd a Chymru wrth wraidd adroddiad newydd sy'n nodi'r ffordd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei addewidion Uchelgais Prifddinas.

Mae'r adroddiad, fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 14 Rhagfyr, yn nodi blaenoriaethau clir yr awdurdod dros y pedair blynedd nesaf wrth iddo geisio adeiladu awdurdod lleol sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Huw Thomas: "Caerdydd heddiw yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf ac uchaf ei sgiliau ym Mhrydain. Mae economi a phoblogaeth y ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae diweithdra ar ei lefel isaf y degawd hwn. Ond, ar yr un pryd, mae gormod o bobl yng Nghaerdydd - llawer o deuluoedd sy'n gweithio - yn cael trafferth i fodloni eu hanghenion sylfaenol. Mae'n rhaid ateb yr heriau hyn - twf, anghydraddoldeb a chynaliadwyedd - gyda datrysiadau mentrus a syniadau mawr yn ystod cyfnod o lymder na welwyd ei debyg. Mae ein hadroddiad Uchelgais Prifddinas yn nodi sut byddwn yn diogelu'r Cyngor ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu awdurdod addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Un sy'n gweithio dros Gaerdydd a Chymru."

 

Er mwyn galluogi Uchelgais Prifddinas mae'r adroddiad yn argymell sefydlu rhaglen gyflawni pedair blynedd er mwyn helpu i yrru'r project yn ei flaen ac i ganolbwyntio ar feysydd sydd angen newid sylfaenol.

 

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ‘foderneiddio' a ‘thrawsffurfio gwasanaethau rheng-flaen'.

 

Os caiff ei ganiatáu gan y Cabinet, bydd y Cyngor yn ymchwilio'n syth i ystod o opsiynau gan gynnwys:

  • Ymchwilio i'r achos busnes o gael Neuadd y Sir newydd.

  • Mabwysiadu dull ‘Digidol yn Gyntaf' fydd yn cynnig mynediad digidol 24/7 at wasanaethau sydd yn ‘union yr un peth â'r hyn sydd ar gael i ddinasyddion ym mhob agwedd arall ar eu bywydau'.

  • Cynnal adolygiad o'r bôn i'r brig o'i asedau a'i eiddo gyda golwg ar foderneiddio'r eiddo, gwella ansawdd yr adeiladau y mae'n dewis eu cadw a gwaredu adeiladau o safon gwael,gan helpu i leihau ôl-groniad cynnal a chadw o £100m.

  • Datblygu ffrydiau incwm newydd o asedau'r Cyngor, yn enwedig, lleoliadau ac atyniadau sy'n berchen i'r Cyngor i ‘gystadlu gyda a churo' cystadleuwyr masnachol.

 

  • Ymchwilio i gydweithio rhanbarthol ar wasanaethau a rennir o safbwynt gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, yn benodol mewn perthynas â chefnogi pobl hŷn.

 

Mae'r adroddiad Uchelgais Prifddinas hefyd yn dweud y bydd y Cyngor yn gweithio i amddiffyn gwasanaethau hanfodol mewn sawl ffordd gan gynnwys:

  • Ffyrdd newydd a mwy effeithlon o weithio.

  • Partneriaethau newydd gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a chymunedol; a

  • Chreu Bargen Newydd gyda phreswylwyr wedi ei seilio ar fuddion a chyfrifoldebau ar y cyd

 

Dywedodd y Cyng Thomas: "Mae llawer y gallwn ni ei wneud fel Cyngor, ond os ydym am lwyddo bydd angen cefnogaeth preswylwyr Caerdydd wrth i ni geisio creu prifddinas wych gyda gwasanaethau cyhoeddus gwych.

 

"Bydd angen i breswylwyr y ddinas fanteisio ar ein cynlluniau os ydym am greu prifddinas lanach, iachach a thecach. Ni all y Cyngor gadw ein strydoedd yn lân, bwrw ein targedau trafnidiaeth gynaliadwy ac edrych ar ôl ein pobl sydd fwyaf agored i niwed ar ei ben ei hun. Mae'r toriadau llymder yn golygu'n syml nad yw'n bosibl i'r Cyngor gyflawni hyn ar ei ben ei hun. Mae angen ‘Bargen Newydd' arnom gyda dinasyddion a sefydliadau partner, lle gallwn gydweithio i daclo problemau ac i wireddu ein dyheadau ar gyfer Caerdydd.

 

"O ystyried graddfa'r heriau ariannol hirdymor sy'n wynebu'r Cyngor, bydd angen i bob gwasanaeth fod yn destun adolygiad manwl a heriol. Dros y ddeng mlynedd diwethaf, mae'r Cyngor wedi arbed chwarter biliwn o bunnoedd ac wedi lleihau nifer y staff nad ydynt yn staff mewn ysgolion gan fwy na 1600 o bobl. Rydym yn disgwyl bwlch pellach yn y gyllideb o dros £73m dros y tair blynedd nesaf hefyd. Yn amlwg, mae hyn yn golygu bod angen newid sylfaenol drwy'r trwch.

 

"Mae'r weinyddiaeth hon wedi ymrwymo i ddatblygu ‘Bargen Newydd' gyda dinasyddion y gall y Cyngor a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu weithio gyda'i gilydd i daclo problemau ac i wireddu dyheadau ar y cyd ar gyfer y ddinas.

 

"Fel cam cyntaf, mae porth gwirfoddoli wedi cael ei lansio, fydd yn ei gwneud hi'n haws i breswylwyr Caerdydd sydd â diddordeb gwirfoddoli i gymryd rhan ac i ganfod dewisiadau addas."