Back
Datganiad Y Cyngor

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau a Thai: "Mae hon yn farwolaeth drasig ac rydym yn meddwl am y teulu ar yr adeg anodd hwn. Mae'r Heddlu wedi cadarnhau nad yw'n farwolaeth amheus ac y bydd rhaid i ni nawr aros am ganlyniadau cwest y crwner i ddeall pam fod hyn wedi digwydd.

 

"Rydw i'n gwybod y bydd pobl yn gofyn a ydyn ni'n gwneud digon i helpu'r digartref, ac yn wyneb marwolaeth drasig, mae'n rhaid i ni ofyn i ni'n hunain sut y gallai hyn fod wedi digwydd. Ond rydw i am i bobl wybod nad oes dim angen iddyn nhw gysgu yn yr awyr agored dros nos, ac os yw pobl mewn angen eisiau cysylltu â ni, y gwnawn ni bopeth y gallwn i'w helpu.

 

"Rydyn ni'n cynnig ystod eang o wasanaethau i helpu pobl. Mae ein tîm Allgymorth yn gweithio 7 diwrnod yr wythnos, ddydd a nos, yn ymgysylltu â phobl sy'n cysgu ar y stryd neu a allasai fod mewn perygl o syrthio i'r fagl honno. Rydym hefyd yn gweithio gydag elusennau digartrefedd megis Huggard, Byddin yr Iachawdwriaeth a'r YMCA i gynnig llety mewn hosteli, canolfan ddydd i'r digartref a gwasanaeth bws nos. Does dim rhaid i unrhyw un orfod cysgu yn yr awyr agored.

"Fodd bynnag, ni allwn wadu fod rhai o'r bobol sy'n cysgu ar y stryd yn wynebu problemau dyrys iawn ac mewn rhai amgylchiadau yn dewis peidio â manteisio ar y llety a gynigir. Yn yr amgylchiadau hyn, mae ein tîm Allgymorth yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw yn ddyddiol. Cafodd un deg chwech o bob sy'n cysgu ar y stryd help i gael llety yn ystod mis Hydref eleni ac mae cyfanswm o 119 o bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cael help i gael llety ers mis Ebrill.

 

"Rydym yn ddiweddar hefyd wedi cytuno ar gyllid ar gyfer nifer o brojectau tai blaengar i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd yn y ddinas, a bydd y rhain ar waith cyn bo hir." Rydym yn gweithio tuag at roi pen ar gysgu ar y stryd yng Nghaerdydd, ond mae'r newyddion hwn yn hynod drist i bawb sy'n gweithio yn y sector a thu hwnt."