Back
Hyb Llanisien ar agor yr wythnos nesaf

 

Hyb Llanisien ar agor yr wythnos nesaf

 

Bydd hyb cymunedol newydd, sy'n cynnig rhagor o wasanaethau a gwasanaethau gwell i gwsmeriaid, yn agor yn Llanisien yr wythnos nesaf.

 

Bydd Hyb Llanisien, trydydd hyb cymunedol newydd y ddinas eleni, yn dilyn hybiau Ystum Taf a Gabalfa a'r Powerhouse yn Llanedern, yn croesawu cwsmeriaid ddydd Llun 27 Tachwedd am 9am.

 

Mae'r cyfleuster cymunedol newydd, sydd ar lawr gwaelod gorsaf heddlu Llanisien ar Station Road, yn broject partneriaeth gyda Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Mae'r llawr gwaelod wedi ei adnewyddu a'i ailfodelu i gynnwys gwasanaethau llyfrgell a chornel plant, gwasanaethau tai a budd-daliadau, cyfrifiaduron i'r cyhoedd, ystafell TG, ystafelloedd cyfweld ac ystafell gymunedol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae'r hyb newydd yng nghanol pentref Llanisien ac mae mewn lle da iawn i wasanaethu'r gymuned o'i amgylch.

 

"Llanisien yw'r ardal ddiweddaraf i elwa o'n rhwydwaith o hybiau sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn trwy'r ddinas, yn cynnig gwasanaethau cwsmer-ganolog ar y cyd o gyfleusterau hygyrch.

 

"Unwaith eto, rydyn ni'n falch o fod wedi gweithio gyda Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i wireddu'r hyb newydd. Mae ein partneriaeth yn Hyb The Powerhouse yn Llanedern yn mynd yn dda iawn ac rydyn ni wrth ein boddau unwaith eto gyda'r cydweithrediad hwn, sydd wedi arwain at gyfleuster ardderchog arall ar gyfer y gymuned."

 

Dywedodd Comander Rhanbarthol Caerdydd, y Prif Uwch-arolygydd Belinda Davies: "Rydyn ni'n frwdfrydig iawn am y cyfleoedd y bydd hyb cymunedol lleol yn eu creu ac i ni ddod yn hyd yn oed yn fwy hygyrch i'r gymuned rydyn ni'n ei gwasanaethu.

 

"Mae'n rhoi safle addas at y diben i'n swyddogion y gallan nhw fynd o gylch eu gwaith beunyddiol ohono."

 

Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Alun Michael, yn ymuno â'r Cyng. Thorne yn agoriad swyddogol yr hyb ddydd Mercher 29 Tachwedd.

 

Caiff goleuadau Nadolig Llanisien eu goleuo ar y noson honno a bydd yr hyb yn estyn ei orau agor tan 7.30pm i roi cyfle i'r gymuned ddod i edrych o amgylch y cyfleuster i ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael.