Back
Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd yn ennill Gwobr Lletygarwch Cymru
Mae Canolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd wedi’i henwi fel y 'Tîm Diddanu Gorau' yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru 2017.

Mae’r cyfleuster dŵr gwyn ar-alw cyffrous yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd yn gartref i ystod o weithgareddau dŵr ar gyfer y teulu cyfan, gan gynnwys Rafftio Dŵr Gwyn, Ton Dan Do, Padlfyrddio, Canŵio a Chaiacio yn ogystal â’r Antur Awyr, Wal Ddringo a Llogi Beiciau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury:  “Os yw eich syniad o ddiwrnod da yn cynnwys ambell antur a llond lle o ddŵr yna, fel mae’r wobr hon yn profi, Dŵr Gwyn Caerdydd yw’r lle i chi.

“Mae’r ganolfan yn lle gwych i ddysgu sgiliau a thechnegau newydd yn ogystal â rhoi cynnig ar weithgareddau hwyl, ac mae’n wych cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau cenedlaethol hyn o waith y tîm i sicrhau bod pob ymweliad yn gymaint o sbort â phosib."

Mae Gwobrau Lletygarwch Cymru yn dathlu popeth yn y diwydiant lletygarwch, gan gydnabod a gwobrwyo'r goreuon yn y maes.

Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd ewch i:  https://www.dgrhc.com/?force=2