Back
Cydnabyddiaeth i’r Hyrwyddwr Tai, Hannah, am helpu’r digartref

Cydnabyddiaeth i'r Hyrwyddwr Tai, Hannah, am helpu'r digartref

 

Mae gweithiwr y cyngor, sy'n ymroi i wella iechyd a lles pobl ddigartref yn y ddinas wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr Tai Cymru 2017.

 

Yn y seremoni wobrwyo flynyddol yn y Vale Resort, enwyd swyddog Gwasanaethau Hostel, Hannah Jinks, yn Hyrwyddwr Tai Cymru, sy'n cydnabod pobl sydd wedi dangos brwdfrydedd ac awch wrth eu gwaith, mewn rolau sy'n gwella bywyd pobl eraill.

 

Bu Hannah, sy'n gweithio yn Nhŷ Tresilian a Green Farm hostels dros y 14 blynedd diwethaf, yn rhan bwysig o'r ymdrechion i wella lles preswylwyr a'r rhai sy'n cysgu allan ac sy'n defnyddio gwasanaethau'r Cyngor, gyda ffocws penodol ar iechyd y llygaid.

 

Mae optegwyr Specsavers nawr yn ymweld â Thŷ Tresilian yn rheolaidd i roi profion llygaid i'r preswylwyr a'r defnyddwyr gwasanaeth, ac roedd angen sbectol, triniaeth bellach neu fynd i'r ysbyty ar tua 95% o'r rhai a brofwyd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cyng. Lynda Thorne, wrth longyfarch Hannah am ei gwobr: "Mae hyn yn newyddion ardderchog ac mae'n fraint haeddiannol dros ben. Rwy'n falch iawn o Hannah a holl dîm y gwasanaethau hostel y mae eu harloesedd a'u hymrwymiad wrth eu gwaith yn gwneud gwir wahaniaeth i'r bobl sy'n agored i niwed y maen nhw'n eu helpu.

 

"Rydyn ni'n gweithio'n galed â phartneriaid i gynnig gwasanaethau i breswylwyr yn ein hosteli ac mae'n anhygoel beth all ddigwydd o ganlyniad i brawf llygaid. Yn aml, mae ein tîm yn gweld gwahaniaeth mawr yn y preswylwyr sydd wedi derbyn triniaeth neu sbectol i wella eu golwg.

 

"Gall fod yn gatalydd i wneud i rywun gydweithio â gwasanaethau, magu ei hyder a gwella ei bosibiliadau wrth i ni helpu pobl i ail-gydio yn eu bywydau.

 

"Mae ein timau digartrefedd yn gwneud gwaith ardderchog ac rwyf wrth fy modd bod Hannah wedi cael ei chydnabod trwy'r wobr diwydiant genedlaethol hon."