Back
Admiral yn rhoi gwedd newydd ar wisg timau croesi ysgolion y ddinas

 

Admiral yn rhoi gwedd newydd ar wisg timau croesi ysgolion y ddinas

 

Mae timau croesi ysgolion yng Nghaerdydd yn cael iwnifformau newydd, diolch i fargen newydd gyda cyflogwr lleol, Admiral.

 

Mae'r cwmni, y mae ei bencadlys yn y ddinas, yn noddi iwnifform y gaeaf a'r haf ar gyfer 39 tîm croesi ysgolion a phedwar tîm croesi ysgolion symudol ledled Caerdydd.

 

[image]

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Admiral am gefnogi ein timau croesi ysgolion, yn sicrhau bod ganddynt y dillad cywir wrth iddynt gyflawni eu rôl bwysig - yn sicrhau bod ein plant yn mynd i ac o'r ysgol yn ddiogel.

 

"Mae ein timau ledled y ddinas yn gwneud gwaith ardderchog, gan weithio'n galed iawn ar ffyrdd a chyffyrdd prysur. Maent yn weladwy iawn yn eu hiwnifform ac yn unol â'r gyfraith, mae ganddynt y grym i atal traffig felly rydym yn gofyn i yrwyr barchu'r timau hyn wrth iddynt helpu plant ysgol ac oedolion i groesi'r ffyrdd yn ddiogel."

 

 

[image]

Datgelwyd yr iwnifform newydd, gyda marc brandio Admiral, yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed yn ystod Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd (Tachwedd 20-26) sydd â'r bwriad o ysbrydoli ysgolion, sefydliadau a chymunedau i gymryd camau ar ddiogelwch ar y ffyrdd ac i hybu negeseuon sy'n achub bywydau.

 

Aeth tîm Diogelwch ar y Ffyrdd y Cyngor i'r Tyllgoed gyda Roadie, y robot croesi ysgolion, sy'n helpu i addysgu plant - ‘Kerbcraft' - sut i wneud y penderfyniadau cywir i aros yn ddiogel wrth groesi ffyrdd.