Back
Anrhydedd Ewropeaidd i Gaerdydd

Anrhydedd Ewropeaidd i Gaerdydd

 

Mae Caerdydd wedi derbyn Plac Anrhydedd gan Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop.

Cafodd y plac ei gyflwyno i Arglwydd Faer Caerdydd y Cynghorydd Bob Derbyshire, ac Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, gan y Farwnes Doreen Massey ar ran Cyngor Ewrop, mewn seremoni arbennig yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ger bron grwpiau lleol sydd â chysylltiadau rhyngwladol.

Y Plac Anrhydedd yw'r ail ddyfarniad uchaf posib wedi Gwobr Ewrop ac mae'n cael ei ddyfarnu i tua 10 bwrdeistref bob blwyddyn. Caerdydd yw'r unig ddinas yn y DU a fydd yn derbyn unrhyw elfen o Wobr Ewrop eleni.

 

Cafodd Gwobr Ewrop ei chreu yn 1955 gan Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop i wobrwyo trefi a bwrdeistrefi sydd wedi bod yn arbennig o weithgar yn hyrwyddo'r ddelfryd Ewropeaidd.

 

Mae pedair haen i'r fenter ac mae gwobrwyo'r haenau amrywiol yn cael ei wneud fesul gradd. Rhaid i drefi a dinasoedd ennill Diploma Ewrop yn y lle cyntaf, cyn ennill y Faner Anrhydedd, ac yna'r Plac Anrhydedd er mwyn cystadlu ar yr haen uchaf am Wobr Ewrop.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hyn yn anrhydedd gwirioneddol i'r ddinas. Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei gweledigaeth ryngwladol ac rydym yn cofleidio ein cysylltiadau â dinasoedd a rhanbarthau ledled y byd.

 

"Rydym yn cydnabod bod cyfleoedd i ddysgu gan ein partneriaid Ewropeaidd a rhannu â hwy er mwyn cyfoethogi bywydau'r pobl sy'n byw yn ein dinasoedd.

 

"Mae cysylltiadau cryf gennym â sefydliadau, partneriaid a rhwydweithiau Ewropeaidd, ac rydym yn awyddus i gynnal y perthnasoedd cadarnhaol hyn a gwneud yn siŵr bod Caerdydd yn parhau i estyn llaw ar draws y byd."

 

Ledled Ewrop, mae gan Gaerdydd drefniadau gefeillio gyda Naoned (Nantes) yn Ffrainc, Lugansk yn yr Wcrain, Stuttgart yn yr Almaen a Hordaland yn Norwy.

 

Mae modd olrhain cysylltiad gefeillio hynaf y ddinas, gyda Stuttgart, nôl i 1955 a chafwyd rhaglen o ddigwyddiadau i ddathlu'r 60 mlwyddiant yn y ddwy ddinas yn 2015.

 

Mae ymweliadau cyfnewid yn digwydd rhwng Caerdydd a Stuttgart yn rheolaidd ac mae Cymdeithas Caerdydd-Stuttgart yn cynnal cyfarfodydd Skype yn aml gyda chyfeillion yn Stuttgart.

 

Ymhlith mentrau eraill sy'n dathlu'r ddelfryd Ewropeaidd y mae gwaith ar y cyd gan Gynghorau Caerdydd a Naoned (Nantes) sy'n rhan o brojectau garddwriaethol ar gyfer Sioe Wanwyn yr RHS a Chwpan Rygbi'r Byd oedd yn cynnwys prentisiaid garddio'n cyfnewid lle, a threfnwyd cysylltiadau rhwng ysgolion yng Nghaerdydd a Hordaland ynghyd ag ymweliadau cyfnewid diwylliannol i bobl ifanc ac oedolion.