Back
Rhentu Doeth Cymru yn erlyn yr asiant cyntaf

RHENTU DOETH CYMRU YN ERLYN YR ASIANT CYNTAF

 

Mae Rhentu Doeth Cymru'n dechrau gorfodi mwyfwy wrth i ben-blwydd cyntaf y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ddynesu.

 

Clywyd dau erlyniad llwyddiannus arall yn Llys Ynadon Caerdydd, gan gynnwys yr asiant masnachol cyntaf yng Nghymru i'w ddyfarnu'n euog o reoli eiddo heb drwydded.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae bron i flwyddyn wedi bod ers y dyddiad cau, 23 Tachwedd, i'r holl landlordiaid sydd ag eiddo yng Nghymru gofrestru ac eto, mae landlordiaid ac asiantau allan yna sydd yn dal i gredu eu bod yn gallu gweithredu y tu hwnt i'r gyfraith.

 

"Rydym yn cymryd camau a byddwn yn darganfod yr unigolion hynny nad sydd yn cydymffurfio. Yn ogystal â chamau yn y llys a dirwy fawr o bosibl, gallai landlordiaid ac asiantau wynebu cosbau a chyfyngiadau rhent ar ailfeddiannu eu heiddo o ganlyniad i beidio â chydymffurfio.

 

"Nid oes esgus gan asiant masnachol i beidio bod wedi ei gofrestru neu'i drwyddedu. Rwy'n annog unrhyw landlordiaid sy'n defnyddio asiant masnachol i gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â Rhentu Doeth Cymru i sicrhau eu bod yn cyflawni dyletswyddau rheoli'n gyfreithiol."

 

Methodd Yvette Phillips, sy'n masnachu fel asiant ystadau R Miles Scurlock yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, â chyflwyno cais wedi'i gwblhau am drwydded na chofrestru ei heiddo rhent.

 

Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig iddi ym mis Mehefin eleni ond methodd â thalu, cyflwyno cais am drwydded na chofrestru'r eiddo er gwaethaf negeseuon atgoffa pellach.

 

Rhoddodd Ynadon Caerdydd ddirwy o £4,600 i Mrs Phillips am dri trosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a gorchmynnwyd iddi dalu costau llys o £671 a thâl dioddefwr o £170.

 

Hefyd, barnwyd y landlord hunan-reoli, Damian Cross o Rodfa'r Gwagenni, y Barri, yn euog o fethu â chael trwydded er mwyn cyflawni gweithgareddau gosod a rheoli ar gyfer eiddo yn Beaconsfield, Romilly Road, Y Barri.

 

Roedd Mr Cross wedi cofrestru'r eiddo ond nid oedd wedi gwneud cais am drwydded. Methodd dalu Hysbysiad Cosb Benodedig am beidio â chydymffurfio, na chyflwyno cais am drwydded na phenodi asiant.

 

Cafodd ddirwy o £660 am ddau drosedd dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a gorchmynnwyd iddo dalu costau llys o £543 a thâl dioddefwr o £33.