Back
Hwb ariannol i gynllun tai arloesol

 

Hwb ariannol i gynllun tai arloesol

 

Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu'r newyddion bod cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi ei sicrhau ar gyfer menter tai i bobl sydd â'r angen mwyaf brys.

 

Mae project peilot cynwysyddion llongau y Cyngor, sy'n ailwampio unedau i letya aelwydydd sy'n wynebu digartrefedd, wedi ei gymeradwyo ar gyfer cyllid grant drwy'r Gronfa Dai Arloesol.

 

[image]

 

Mae cynllun Caerdydd yn un o 22 o brojectau tai i ddatblygu 'cartrefi'r dyfodol' gyda chefnogaeth Rhaglen Dai Arloesol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

 

Nod y rhaglen yw creu cynlluniau enghreifftiol er mwyn dangos i Lywodraeth Cymru, Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol pa fath o gartrefi y dylid eu cefnogi yn y dyfodol i fynd i'r afael â'r galw am gyflenwad ac ag anghenion amgylcheddol.

 

Bwriad y Cyngor yw creu wyth cartref teulu fydd yn defnyddio ynni yn effeithlon ar dir Hostel Greenfarm yn Nhrelái, a gaiff eu defnyddio fel cartrefi dros dro tra bo teuluoedd yn disgwyl datrysiad tai mwy parhaol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael cyllid drwy'r Gronfa Dai Arloesol. Ein cynllun yw creu wyth cartref newydd, i'w defnyddio dros dro, ac mae'n gynllun gwirioneddol arloesol.

 

"Mae mwy a mwy o alw am gartrefi fforddiadwy o safon yn y ddinas, ac rydym yn mynd i'r afael â hyn drwy adeiladu tai cyngor newydd yn ein Cynllun Cartrefi Caerdydd, drwy brynu a thrwy fentrau creadigol a chynaliadwy fel yr un yma.

 

"Mae'r project cynwysyddion llongau yn ffordd gyflym a chost effeithiol o ddarparu cartrefi ar gyfer pobl mewn angen yn y ddinas. Maen nhw'n rhoi hyblygrwydd i ni hefyd i ymateb i'r newidiadau mewn galw gan fod modd symud yr unedau a'u hailddefnyddio."

 

[image]

 

Mae dyluniadau manwl yr 16 o unedau yn cael eu datblygu ar hyn o bryd a bydd cais cynllunio'n cael ei gyflwyno cyn hir.