Back
Gwaith adeiladu wedi ei gwblhau ar gampws ysgol a choleg arloesol a rennir yng Nghaerdydd

Cynhaliwyd digwyddiad ar Gampws Cymunedol y Dwyrain i nodi cwblhau gwaith adeiladu allanol ar gartref newydd Ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a'r Fro.

 

[image]

 

Ymunodd cynrychiolwyr o Gyngor Caerdydd a Willmot Dixon, y cwmni sydd yn adeiladu'r campws, â staff, llywodraethwyr a myfyrwyr o'r ysgol a'r coleg ar y safle.

 

Caiff y project, fydd yn agor ym mis Ionawr, gwerth £26m ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru trwy raglen Ysgolion 21ain Ganrif.

 

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n wych gweld cwblhau'r cam yma yn y project. Does dim cymaint â hynny ers i mi dorri'r dywarchen gyntaf i nodi dechrau'r cyfnod adeiladu, felly mae gweld y cynnydd anhygoel a wnaed mewn amser cymharol fyr yn hynod gyffrous, a galla' i ddim aros i weld yr ysgol a'r coleg newydd yn agor.

 

"Mae cael ysgol Uwchradd y Dwyrain a Choleg Caerdydd a'r Fro ar yr un campws yn rhywbeth nad ydym wedi ei wneud o'r blaen. Drwy gydweithio fel hyn gallwn gynnig pontio esmwyth i'r myfyrwyr yn dilyn eu TGAU, gan agor cyfleoedd gwych iddynt fynd yn eu blaenau i addysg bellach a hyfforddiant.

 

Trwy ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, rydym yn buddsoddi dros £164m yn ysgolion y ddinas gyda Llywodraeth Cymru, gan greu cyfleusterau modern i'n plant a'n pobl ifanc gael dysgu ynddynt.

 

"Gall yr ysgolion newydd yr ydym yn eu hadeiladu ar draws Caerdydd fod o fudd i'r gymuned ehangach. Mae'r ystod o gyfleusterau sy'n siapio ar Gampws Cymunedol y Dwyrain, gan gynnwys cae chwarae 3G dan lifoleuadau, gofodau cymunedol a thŷ bwyta, yn enghraifft wych o roi hyn ar waith."

 

Ar Gampws Cymunedol y Dwyrain, bydd lle i hyd at 1,200 o fyfyrwyr Ysgol Uwchradd y Dwyrain a 320 o fyfyrwyr Coleg Caerdydd a'r Fro pan fydd yn agor yn y flwyddyn newydd. Bydd yn cynnwys gofodau dysgu hyblyg y gellir eu ffurfio ar gyfer defnydd amrywiol, a'r cyfleusterau gwyddonol diweddaraf.

 

Bydd yr ysgol yn symud o'i safle presennol, sef cyn safle Ysgol Uwchradd Tredelerch ar Heol Casnewydd.

 

Dywedodd Pennaeth ysgol Uwchradd y Dwyrain, Mr Armando Di-Finizio: "Bob tro rwy'n ymweld â'r safle rwy'n synnu at faint o gynnydd a wnaed, ac allwn ni ddim aros tan ar ôl y Nadolig er mwyn gallu symud i mewn. Mwynheais ddangos y safle i rai o'r myfyrwyr, roeddent wedi eu syfrdanu gan y cyfleusterau, megis ystafelloedd dosbarth modern, llyfrgell, stiwdio ddawns a chyfleusterau chwaraeon gwych.  

 

"Hyd yn oed gyda rhywfaint o'r sgaffaldau yn eu lle o hyd, mae'r golau naturiol sydd yn yr adeilad yn wych; bydd hynny yn ei wneud yn lle pleserus i weithio a chymdeithasu ynddo. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig i ddangos rhieni darpar ddisgyblion Blwyddyn 6 o amgylch y lle pan fyddwn yn cynnal ein noson agored ar y campws ar y 19eg o'r mis nesaf"

 

Rhyddhawyd dolen taith fideo o gwmpas y safle yn gynharach yn y project er mwyn dangos y campws wedi iddo gael ei gwblhau. Mae'n cael ei adeiladu ar hen safle campws Trowbridge Coleg Caerdydd a'r Fro, sydd wedi ei ddymchwel.

 

Dywedodd Mike James, prif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro: "Mae'n gyffrous gweld faint o gynnydd a wnaed yn y project arbennig yma i ddod a dewis ehangach o ran addysg a hyfforddiant i bobl ifanc Dwyrain Caerdydd.

 

"Pan fydd y campws ysgol a dysgu newydd hwn yn agor yn y flwyddyn newydd fe fydd yn gyfleuster ysbrydoledig i bobl ifanc ac i'r gymuned leol. Mae hanes hir o gydweithio gyda phobl Dwyrain Caerdydd gan Goleg Caerdydd a'r Fro ac ni allwn aros i gael symud i mewn i Gampws Cymunedol y Dwyrain."

 

Mae Campws Cymunedol y Dwyrain yn un o saith project sydd ar waith ar hyn o bryd i adeiladu ysgolion newydd yng Nghaerdydd, Y lleill yw Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gymraeg Glan Ceubal, Ysgol Gymraeg Glan Morfa ac Ysgol Gymraeg Hamadryad.

 

Mae'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru i greu'r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir.

 

Prif flaenoriaethau'r rhaglen fuddsoddi yw:

  • Sicrhau bod y cyflenwad yn ddigon i ateb y galw

  • Buddsoddi mewn ysgolion newydd ac adfywio ysgolion presennol

  • Ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg a Saesneg

  • Creu darpariaeth feithrin ar safleoedd ysgolion cynradd

 

Gwerth Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif presennol Cyngor Caerdydd yw £164m.

 

[Pic caption (L to R:) Pennaeth CCAF Kay Martin, Dirprwy Arweinydd y Cyngor y Cyng Sarah Merry, Pennaeth YUD Armando Di-Finizio, Cyd-gadeirydd Pwyllgor David Reeves, Prif Weithredwr CCAF Mike James, RhG Willmott Dixon Neal Stephens, Arweinydd Cyngor Caerdydd y Cyng Huw Thomas ar y safle gyda myfyrwyr YUD a CCAF]