Back
Lansiad Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro

Lansiwyd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro yn Neuadd y Sir heddiw.

 

[image]

Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd, y Cyng Graham Hinchey

 

Caiff y gwasanaeth newydd ei gynnal gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, fel rhan o fenter ledled y genedl gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro wedi'i gynllunio i ddarparu pwynt cyswllt unigol ar gyfer oedolion sydd ag awtistiaeth, teuluoedd sydd â phlant awtistig a gofalwyr sy'n gofalu am oedolion neu blant sydd ag awtistiaeth.

 

Mae Tîm Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro, sydd ym Mhenarth yn cyfuno gwaith y ddau awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a sefydliadau gwirfoddol.

 

Bydd y tîm yn cydlynu'r cymorth sydd ar gael, yn darparu gwasanaeth gwell ac yn teilwra cefnogaeth ar gyfer oedolion sydd ag awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Bydd y gwasanaeth newydd hefyd yn helpu i osgoi dyblygu gwasanaethau er mwyn gwella effeithlonrwydd.

 

Cyllidir Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Blant a Theuluoedd, y Cyng Graham Hinchey: "Mae lansiad y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig heddiw yn nodi adeg arwyddocaol o ran datblygu cefnogaeth i bawb sydd ag awtistiaeth, eu teuluoedd, a'u gofalwyr sy'n byw yng Nghaerdydd a'r Fro.

 

"Mae hefyd yn gyfle i gydnabod yr ymrwymiad parhaus gan Gyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'n partneriaid yn y trydydd sector i gyflawni gwasanaethau gyda'i gilydd er budd pawb ar draws y rhanbarth.

 

"Rwy'n hynod falch mai Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro yw un o'r rhai cyntaf i lansio fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru ar draws Cymru.

 

"Yng Nghaerdydd a'r Fro mae gennym hanes o lwyddiant o ran darparu gwasanaethau i oedolion sydd ag awtistiaeth a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro yn ein galluogi ni i ddod â llawer o'r gwasanaethau hyn ynghyd, ac i weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu gwasanaethau a ffyrdd newydd o gefnogi.

 

Dywedodd y Cyng Gordon Kemp, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Hamdden: "Drwy weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau statudol a gwirfoddol sy'n gweithredu ar draws y rhanbarth, bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig newydd yn galluogi dull cyfannol tuag at gefnogi pobl sydd ag awtistiaeth.

 

"Mae'r tîm yn dod â thîm eang o weithwyr proffesiynol ynghyd, ac mae ganddynt brofiad a gwybodaeth eang iawn; maent yn deall pwysigrwydd gweithio gyda'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a gwrando arnynt, gan sicrhau ei fod yn bodloni eu hanghenion, yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol ac yn parhau i ddatblygu.

 

"Dyma enghraifft ragorol o weithio rhanbarthol, y mae Cyngor Bro Morgannwg wrth ei fodd i fod yn rhan."

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Clinigol Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Annie Procter: "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r fenter hon a fydd yn helpu darparu cymorth i bobl o bob oedran sy'n cael eu heffeithio gan yr heriau a gyflwynir gan awtistiaeth.

 

"Mae awtistiaeth yn cael ei chydnabod yn fwy fel rhywbeth sy'n cael effaith enfawr ar fywyd bob dydd y rhai sydd gyda'r diagnosis, a'u teuluoedd, eu gofalwyr a'u ffrindiau.

 

"Rydym yn croesawu'r cyllid newydd er mwyn gallu gwella diagnosis awtistiaeth mewn unigolion yr effeithir arnynt, datblygu'r gofal, yr addysg a'r cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r ffordd y canfyddir awtistiaeth, a hefyd sicrhau mynediad haws at wasanaethau gwell gydag effaith gadarnhaol ar y rhai sydd eu hangen fwyaf."

 

Gellir cysylltu â Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro naill ai trwy ffonio 029 2182 4240 neu drwy e-bostio CAV.IAS@wales.nhs.uk