Back
Canllaw i fyfyrwyr newydd ar gadw'n saff yng Nghaerdydd…

 Daw Wythnos y Glas â miloedd o fyfyrwyr newydd i Gaerdydd, a fydd yn barod i ddechrau ar dair blynedd o waith caled, astudio ac ambell i noson allan.

Mae Caerdydd yn lle gwych i fyw ac astudio, ond fel pob prifddinas fawr mae'n bosibl y bydd pethau'n mynd o chwith os nad ydych yn edrych ar ôl eich hunain a'ch eiddo.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae poblogaeth myfyrwyr Caerdydd yn chwarae rôl hanfodol o ran gwneud y ddinas yn lle cyffrous i fyw ynddo, a hoffwn estyn croeso cynnes i bob myfyriwr newydd fydd yn cyrraedd prifddinas Cymru yn ystod wythnos y glas."

"Rydym eisiau i fyfyrwyr gael amser da, cynhyrchiol, ac yn fwy na dim, diogel yma. Mae'r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'n partneriaid yn yr Undebau Myfyrwyr a'r Fforwm Partneriaeth Cymunedol yn hanfodol o ran gwella llesiant myfyrwyr a mynd ar ôl materion oddi ar y campws sy'n effeithio ar y gymuned gyfan."

Arweinir y fforwm gan Swyddog Cyswllt Myfyrwyr y Cyngor, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Undeb Myfyrwyr Prifysgol De Cymru, Heddlu De Cymru, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd.

Dyma ddeg o syniadau'r fforwm ynglŷn ag aros yn ddiogel ym mhrifddinas Cymru:

  1. Sicrhewch fod eich nosweithiau allan yn gofiadwy am y rhesymau iawn - peidiwch ag yfed diodydd heb eu gweld nhw'n cael eu paratoi, a pheidiwch fyth â gadael eich diod heb gadw llygad arno. Cofiwch os ydych yn feddw gaib, ni fydd bariau'n caniatáu mynediad nac yn gweini alcohol i chi.

  1. Os ydych ar goll neu ar eich pen eich hun ar ddiwedd noson heb arian na ffordd i fynd adref, ffoniwch Dragon Taxis ar 029 2033 3333 a sôn am ‘Cynllun Tacsis Diogel Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd', gan roi eich enw a'ch rhif myfyriwr.Byddant yn mynd â chi adref yn ddiogel, ac ar ôl dod dros y noson allan, gallwch dalu'r ffi yn Swyddfa Gyllid/Desg Wybodaeth eich Undeb Myfyrwyr. Cofiwch - byddwch yn colli mynediad at wasanaethau prifysgol megis y llyfrgell a'r systemau TG os nad ydych yn talu!

  1. Peidiwch fyth â mynd i mewn i dacsi sydd heb drwydded. Gofynnwch i'ch UM am fanylion cwmnïau tacsi lleol a theithiwch gyda'ch ffrindiau. Mae dau fath o gerbyd tacsi yng Nghaerdydd - Cerbydau Hacni a Cherbydau Llogi Preifat. Gallwch drefnu siwrne mewn Cerbyd Hacni (du a gwyn) oddi ar ochr y ffordd. Mae'n rhaid bwcio cerbydau Llogi Preifat ymlaen llaw. Ar gyfer teithiau sy'n dechrau ac yn gorffen o fewn ffiniau'r ddinas, mae'n drosedd i yrrwr Cerbyd Hacni wrthod taith (heb esgus rhesymol), peidio â defnyddio mesurydd neu godi mwy na'r ffi ar y mesurydd.

  1. Peidiwch â gwneud eich hun yn agored i niwed. Cynlluniwch ymlaen llaw - sicrhewch eich bod chi'n gwybod i le'r ydych chi'n mynd, sut yr ydych yn cyrraedd yno a phwy yr ydych yn cwrdd â nhw. Cynlluniwch eich taith adref a dwedwch wrth eich ffrindiau i le'r ydych yn mynd. Cymrwch olwg ar yr ap diogelwch personol, Panic Guard, ar panicguard.com.

  1. Peidiwch fyth â mynd adref gyda rhywun diarth, na derbyn lifft ganddo, waeth faint fyddwch wedi blino, neu'n hwyr, neu'n wlyb yn y glaw. Arhoswch gyda'ch ffrindiau a sicrhewch eich bod oll yn mynd adref gyda'ch gilydd.

  1. Osgowch gyffuriau penfeddwol cyfreithiol. Nid yw cyfreithiol yn golygu diogel, a gall sgil-effeithiau cyffuriau cyfreithiol fod yn union yr un fath â chyffuriau anghyfreithlon. Mae'r sylweddau seicoweithredol hyn yn cynnwys nifer o gemegion all achosi teimladau o orbryder, panig, dryswch, paranoia a hyd yn oed seicosis, all arwain atberyglu'ch diogelwch. Gall canabinoidau synthetig arwain at feddwdod difrifol, neu hyd yn oed feddwdod all beryglu bywyd.

  1. Mae gliniaduron, llechi a ffonau symudol yn eitemau poblogaidd ymysg troseddwyr yn ogystal â myfyrwyr, felly gwnewch yn siŵr eu bod nhw ‘dan glo, dan ofal!' Mae llety myfyrwyr yn darged delfrydol i ladron felly cyn mynd allan, sicrhewch eich bod wedi cloi pob drws a ffenestr. Dylech hefyd gofrestru'ch eiddo ar www.immobilise.com a marcio'ch eiddo gyda beiro UV. Peidiwch â rhoi eich enw na'ch cyfeiriad ar eich goriadau, a cheisiwch beidio â chadw goriadau sbâr o dan fat y drws ffrynt neu mewn lleoliadau eraill y tu allan i'r eiddo.

  1. Cofiwch fod yn ofalus wrth goginio oherwydd ers 2014, mae 63% o danau tŷ yn ne Cymru wedi dechrau yn y gegin. Hefyd, dylid osgoi gwefru'r ffonau, gliniaduron a llechi dros nos gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ers 2014, wedi mynychu dros 295 o danau damweiniol oherwydd gwifrau diffygiol neu ormod o blygiau mewn socedi.

  1. Gall cyfleusterau nwy a osodwyd yn wael a'u cynnal a'u cadw'n wael ladd. Gofynnwch am gopi o gofnod diogelwch presennol y landlord cyn symud mewn i eiddo a phennu pryd y gall peiriannwr cofrestredig ddod i gynnal gwiriad neu wasanaeth diogelwch.

  1. Mae beicio'n ffordd rhwydd a rhad o deithio o amgylch y ddinas - ond sicrhewch eich bod yn dilyn rheolau'r ffordd fawr, peidiwch â beicio ar balmentydd, rhowch oleuadau ar flaen a chefn eich beic a phrynwch glo beic "Gwerthu Diogel" wedi'i gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref. Gallwch gofrestru'r beic ar www.immobilise.com, gan gofnodi rhif cyfresol y beic a chymryd llun ohono, felly os yw'r gwaetha'n digwydd, mae'r tebygolrwydd o gael y beic yn ôl lawer uwch.

#Os ydych chi'n fyfyriwr ac am gael mwy o wybodaeth ar ddiogelwch neu faterion cymunedol, ewch i www.cardiffdigs.co.uk