Back
Diwrnod cyntaf ysgol uwchradd newydd ddiweddaraf Caerdydd

Agorodd ysgol uwchradd newydd ddiweddaraf Caerdydd ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos diweth af, wrth i staff a myfyrwyr gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn Ysgol Uwchradd y Gorllewin yn Nhrelái.

 

[image]

 

Bydd yr ysgol wedi ei lleoli dros dro ar safle Ffederasiwn Llanfihangel Glyn Derw, a gaeodd fis Awst, cyn symud i'w chartref parhaol gwerth £36m ar Pennally Road, y Caerau.

 

Mae'r agoriad ar 6 Medi yn benllanw misoedd o waith caled i baratoi ar gyfer agoriad swyddogol Ysgol Uwchradd y Gorllewin.

 

Wedi ei benodi fel darpar Bennaeth ym mis Mehefin 2016, rhoddodd Mr Martin Hulland a Chadeirydd y Llywodraethwyr Dewi Jones, y tîm arwain uwch yn ei le a recriwtio'r nifer llawn o staff cyn yr agoriad y mis hwn.

 

Gydag ymglymiad cryf o du'r gymuned leol, mae enw, bathodyn a gwisg oll wedi eu dewis ar gyfer yr ysgol newydd dros y misoedd diwethaf.

 

Wrth siarad ar ddiwrnod cyntaf y tymor, dywedodd Mr Hulland: "Rwyf mor falch fod y diwrnod wedi cyrraedd o'r diwedd pan allwn agor y gatiau i Ysgol Uwchradd y Gorllewin a chroesawu ein myfyrwyr drwy'r drws am y tro cyntaf.

 

"Rwy'n hyderus y gallwn gyda'n gilydd gael dechrau gwych, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r staff a'r gymuned leol. Hefyd gallwn edrych ymlaen at gael symud i'm hysgol anhygoel gwerth miliynau o bunnoedd yn y flwyddyn academaidd nesaf."

 

[image]

 

Cafodd cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd, a ariennir ar y cyd gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru trwy gyfrwng rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, eu cymeradwyo fis Awst a disgwylir iddi agor yn gynnar yn 2019.

 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: Bydd Ysgol Uwchradd y Gorllewin newydd yn cynnig cyfleoedd pellach i blant a phobl ifanc sy'n byw yn y Caerau a Threlái, mewn amgylchedd dysgu cyfoes a deniadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain.

 

"Mae darparu gwell addysg a sgiliau i bawb yn flaenoriaeth i'r cyngor, a thrwy roi'r adnoddau gorau i ddisgyblion a'r safonau addysgu uchaf sydd, gallwn eu helpu i feithrin y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo."