Back
Cyngor Caerdydd yn ennill y wobr Aur a'r wobr Efydd yng ngwobrwyon RSPCA

[image]

Mae Cartref Cŵn Caerdydd ac Uned Rheoli Achosion Brys Cyngor Caerdydd wedi ennill gwobrwyon gan RSPCA Cymru am eu hymdrechion i wella llesiant anifeiliaid.

Mae'r ddau sefydliad wedi'u cydnabod yn rhan o wobrwyon blynyddol RSPCA Cymru, sef Olion Troed Llesiant Anifeiliaid Cymunedol (CAWF).

Enillodd Cartref Cŵn Caerdydd y wobr aur yn y categori Cŵn Coll, a gwnaeth yr Uned Rheoli Achosion Brys ennill gwobr efydd yn yr adran Cynllunio Wrth Gefn. Byddant yn derbyn eu gwobrwyon mewn seremoni arbennig fis nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch i'n staff yng Nghartref Cŵn Caerdydd a'r Uned Rheoli Achosion Brys am eu hymroddiad a'u gwaith caled sydd wedi arwain at ennill y wobr hon gan RSPCA Cymru. Rwyf wedi cael gwybod bod Cartref Cŵn Caerdydd wedi ennill gwobr CAWF bob blwyddyn ers iddynt agor yn 2008 ac maent bellach wedi ennill pedair gwobr aur. Mae hyn yn gyflawniad ffantastig ac yn ategu'r gwaith cyhoeddus pwysig y maen nhw'n ei gynnig yn unigol ac mewn partneriaeth gyda'r Uned Rheoli Achosion Brys."

Dywedodd Paul Smith, Rheolwr Materion Cyhoeddus RSPCA Cymru: "Mae RSPCA Cymru yn falch o gydnabod 16 sefydliad ledled Cymru yn rhan o'r cynllun CAWF. Mae CAWF yn acolâd enwog sydd ag enw da, ac sy'n dal i dalu teyrnged i'r arferion da ledled y wlad, boed hynny'n ymwneud â darpariaeth cŵn strae, tai, trwyddedu neu gynllunio wrth gefn.

"Gyda phum sefydliad yng Nghymru'n ennill y gwobrwyon gorau eto, mae CAWF yn sicr yng nghanol cyfnod da iawn gyda phen-blwydd y cynllun yn ddeg oed y flwyddyn nesaf. Mae sut rydym yn trin creaduriaid byw yn bwysig iawn i bobl - ac mae'r cynllun hwn yn ymwneud â phwysleisio'r camau ymarferol, sylweddol a buddiol y gall cyrff eu cymryd i wella llesiant anifeiliaid yn eu cymunedau lleol.

"Mae'n braf gweld cymaint yn mynd y tu hwnt i ofynion statudol tuag at anifeiliaid, er gwaethaf hinsawdd ariannol heriol. Bydd RSPCA Cymru yn parhau i weithio'n agos â sefydliadau ledled y sector cyhoeddus i sicrhau bod llesiant anifeiliaid wrth wraidd eu gweithgareddau."