Back
Enwebiadau'n agor ar gyfer gwobrau gwrth-fwlio Caerdydd


Mae enwebiadau bellach ar agor i Wobrau Ysbrydoli 2017, sy'n cydnabod pobl sy'n sefyll yn erbyn bwlio.

 

Dyma'r wythfed digwyddiad sy'n dathlu'r plant, y bobl ifanc a'r oedolion sydd wedi cael y nerth a'r cymeriad i sefyll dros neu gefnogi rhywun maen nhw'n gwybod ei fod yn cael ei fwlio.

 

Dydy'r dewrder a'r caredigrwydd hwn ddim yn cael ei gydnabod ddigon, ond gall wneud byd o wahaniaeth i bobl sy'n dioddef. Mae Gwobrau Ysbrydoli 2017 yn gyfle i ddiolch i'r sawl sy'n cyfrannu'n gadarnhaol mewn rhyw ffordd tuag at hapusrwydd a diogelwch pobl eraill yn ysgolion a chymunedau'r ddinas ac sy'n sicrhau eu bod yn cael eu derbyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogadwyedd a Sgiliau: "Mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i hyrwyddo gwrth-fwlio yn ysgolion a chymunedau ein dinas ac mae'r gwobrau hyn yn helpu i amlygu'r gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn drwy greu amgylchedd cadarnhaol, cefnogol a gofalgar.

 

"Mae Gwobrau Ysbrydoli 2017 yn ffordd wych o ddiolch i'r unigolion hynny sy'n rhoi cymorth a chyngor i ffrindiau, cyd-ddisgyblion neu gydweithwyr i oresgyn sefyllfaoedd anodd.

 

"Rwy'n annog pobl i enwebu eraill fel y gallwn longyfarch y bobl wirioneddol ysbrydoledig hyn a'r cymorth enfawr maen nhw'n ei roi i bobl yn awr eu hangen."

 

 

Gallwch enwebu i un o saith categori:

 

1. Gwobr Ysgol - dull gweithredu ysgol gyfan

Cynradd

 

2. Gwobr Ysgol - dull gweithredu ysgol gyfan

Uwchradd

 

3. Aelod staff unigol sy'n Addysgu/Ddim yn Addysgu

Gwobr - Cynradd

 

4. Aelod staff unigol sy'n Addysgu/Ddim yn Addysgu

Gwobr - Uwchradd

 

5. Gwobr Darpariaeth Amgen - fel ieuenctid, chwaraeon, cerddoriaeth, celfyddydau, lles, clybiau, darparwyr hyfforddiant/academïau, gofalwyr ifanc, projectau.

 

6. Gwobr Person Ifanc Unigol - Cynradd

 

7. Gwobr Person Ifanc Unigol - Uwchradd

 

 

Y llynedd daeth plant ysgol a phobl ifanc, athrawon a staff ysgol arall, rhieni, aelodau'r gymuned a busnesau lleol ynghyd i wobrwyo'r enillwyr a chydnabod pawb a enwebwyd.

 

Dywedodd enillydd y categori Person Ifanc - Uwchradd yn 2016, Nadia Khalun, "Rwy'n falch tu hwnt imi ennill y wobr hon gan iddi wneud imi deimlo'n well amdanaf fy hun, am fy mod i'n gwybod imi gael effaith ar fywyd rhywun arall, a'i wneud yn hapus, drwy ei helpu drwy gyfnod anodd pan nad oedd pobl yn garedig iawn ag ef.

 

"Os oes rhywun yn meddwl cyfrannu a helpu rhywun byddwn i'n dweud ewch amdani, oherwydd gallwch newid bywyd rhywun arall â gwên; o newid eu bywyd nhw gallen nhw fynd ymlaen i newid y byd. Gall un peth bach newid y byd cyfan, ewch amdani!"

 

Dywedodd David Griffiths, Pennaeth Ysgol Gynradd Ton-Yr-Ywen, enillydd y Wobr Ysgolion: "Roedd ennill y wobr yn syrpreis hyfryd i bawb yn yr ysgol. Clywsom amdano ychydig wedi ein hwythnos caredigrwydd digymell. Roedd yn syrpreis hyfryd ac yn rhywbeth gwych i'w rannu â'r ysgol. Doedd dim rheswm penodol dros fod yn garedig heblaw am wneud pobl eraill yn hapusach, felly roedd yn wych cael y gydnabyddiaeth hon a wnaeth bawb yma'n hapus - daeth y caredigrwydd yn ôl atom.

 

"Treuliom yr wythnos gyfan yn canolbwyntio ar beth yw caredigrwydd a sut i'w ledu cymaint ag y gallwn. Roeddem am i bawb gyfrannu, felly aethom at y plant, staff, rhieni a'r gymuned ac roeddem am i bob un plentyn ym mhob dosbarth ledu rhywfaint o hapusrwydd a charedigrwydd yn y gymuned leol."

 

Leanne Ryan, enillydd y Wobr Staff (Cynradd): "Dwi ddim wedi arfer â'r math hwn o beth, mae'n anhygoel, ac yn fraint i fod yma ymhlith pobl sydd wedi mynd yr ail filltir. Byddwn i'n dweud i unrhyw un sydd ym maes addysg, â phlant ifanc neu'n gofalu - mae'n anodd a dydych chi ddim bob amser yn cael cydnabyddiaeth, felly mae'n dda gwybod eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a bod pobl yn sylwi ar yr hyn rydych yn ei wneud bob dydd a'ch bod yn gwneud gwahaniaeth."

 

Gallwch enwebu ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/ysbrydoli

 

  • Y dyddiad cau yw dydd Gwener 6 Hydref 2017.

 

Trefnir Gwobrau Ysbrydoli 2017 gan Caerdydd Yn Erbyn Bwlio, tîm gwrth-fwlio Cyngor Dinas Caerdydd. Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, elusennau, Heddlu De Cymru, rhieni, gofalwyr a phlant a phobl ifanc i gefnogi'r sawl sy'n cael eu bwlio neu sy'n bwlio eraill.

 

Gall bwlio gael effaith ofnadwy ar fywydau plant a'u teuluoedd. Nod Caerdydd Yn Erbyn Bwlio yw lleihau achosion a chreu amgylchedd cefnogol lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo'n ddiogel.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Caerdydd Yn Erbyn Bwlio ar gael ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk/bwlio