Back
Ci wedi'i ddwyn o Gartref Cŵn Caerdydd

[image]

Mae gast Boxer Croes dwyflwydd oed o'r enw Fiona wedi'i dwyn o Gartref Cŵn Caerdydd!

Ddydd Mercher 2 Awst daeth menyw i'r cartref ar Ystâd Ddiwydiannol Westpoint a dangos diddordeb mewn rhoi cartref i Fiona. Yna aeth hi â'r ci am dro, ond ddychwelodd hi byth. Mae'r cartref wedi rhoi'r wybodaeth ddefnyddiwyd i lenwi'r ffurflen gais ail-gartrefu, i Heddlu De Cymru, ond y pryder yw bod y wybodaeth hon yn ffug.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y ci hwn cysylltwch â Chartref Cŵn Caerdydd neu Heddlu De Cymru. Mae natur sensitif i Fiona ac rydym yn awyddus iawn yn amlwg i'w chael hi'n ôl. Mae staff y cartref bob amser yn mynnu bod pobl yn gadael allweddi eu ceir fel ernes cyn mynd ag un o'r cŵn am dro, ond y dybiaeth yw bod yr allweddi gafodd eu gadael gan y fenyw hon brynhawn ddydd Mercher, ddim bellach yn gweithio."

Os oes gennych wybodaeth am yr achos hwn o ddwyn ci, cysylltwch â Chartref Cŵn Caerdydd ar 029 2071 1243 neu Heddlu De Cymru ar 01656 655 555 a dyfynnwch gyfeirnod trosedd 1700300384.

[image]