Back
Gwobrwyo rhaglen maeth ysgolion a rhai o gogyddion mwyaf llwyddiannus y DU

Mae Bwyd a Hwyl, rhaglen gyfoethogi benigamp Caerdydd droswyliau'r haf, wedi ennill ei seithfed gwobr yn Ngwobrau Catey 2017.

Dywedodd y beirniaid fod y "Clwb Bwyd a Hwyl yn fodel arloesol y gellir ei roi ar waith ledled y sbectrwm addysg. Mae'r effeithiau'n mynd y tu hwnt i faeth bwyd, fel lles emosiynol ac amddifadu cymdeithasol."

Wedi'i gydlynu gan Fwyd Caerdydd, partneriaeth rhwng Cyngor Dinas Caerdydd a thîm iechyd cyhoeddus lleol BIP Caerdydd a'r Fro, nod y project arloesol hwn yw cynnig elfen o addysg, gweithgareddau chwaraeon (ganChwaraeon Caerdydd) a phrydau iach da mewn amgylchedd diogel, llesol a llawn hwyl, i helpu teuluoedd i gael cwmni a thamaid yn ystod gwyliau'r ysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r wobr ddiweddaraf hon yn selio ymhellach waith rhagorol y sesiynau Bwyd a Hwyl, ac effaith gadarnhaol y rhaglen ar blant Caerdydd.

"Rydym am sicrhau bod plant a phobl ifanc y ddinas yn cael prydau iach a maethlon sy'n hanfodol i'w hiechyd a'u lles cyffredinol dros wyliau'r ysgol ac yn ystod y tymor. Mae'n wych gweld ein rhaglen gyfoethogi'n parhau dros wyliau'r ysgol a sicrhau bwyta'n iach, yn ogystal â chynnig gweithgareddau corfforol a chyfleoedd dysgu hwyl, sy'n galluogi plant i wneud ffrindiau newydd ac annog agweddau cadarnhaol at iechyd a diet."

I gydnabod hufen y diwydiant, gwnaeth Gwobrau Catey 2017 hefyd gyflwyno gwobrau i Tom Kerridge, Nathan Outlaw a John Williams, Cogydd Gweithredol bwyty'r Ritz.

Hefyd, mae'r project yn ddiweddar wedi ennill dwy wobr ragoriaeth y Gymdeithas Arweiniol ar gyfer Arlwyo mewn Addysg (LACA). Enillodd Judith Gregory Wobr Cyflawniad Arbennig Roger Davis ac enillodd y project Wobr Newid Am Oes ar gyfer y Rhaglen Gyfoethogi Gwyliau'r Haf.

Mae'r project hefyd wedi'i enwebu yng nghategori Arloeswr y Flwyddyn yng Ngwobrau Shine 2017, sy'n dathlu'r sgiliau a'r cyfraniad unigryw y daw merched, a'r rhai sy'n cyfrannu at gynnydd eu gyrfa, i'r diwydiant lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth.