Back
Lansio ymgyrch "Ddim o’r ddaear? Dim mynediad!" ledled Caerdydd

[image]

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio ar draws y ddinas, sydd â'r bwriad o atal gwastraff gardd rhag cael ei halogi!

Mae'r ymgyrch hysbysebu'n dangos Goruchwylwyr Drysau sy'n gorachod gardd wrth ddrws clwb nos Gwastraff Gardd gyda'r neges "Ddim o'r ddaear? Dim mynediad!"

Y bwriad yw mynd i'r afael â'r broblem o eitemau megis cardfwrdd, plastigau, pren decio a meintiau mawr o bridd yn cael eu rhoi mewn biniau gwyrddion ac mewn sachau gwastraff gardd amldro, pan fo'r casgliadau ar gyfer deunyddiau y gellir ei gompostio yn unig.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glan, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Rydyn ni'n credu bod yr ymgyrch hon yn trosglwyddo neges ddifrifol iawn mewn ffordd ddiddorol. Yn y bôn, bwriedir casgliadau gwastraff gardd ar gyfer toriadau gwair, blodau, dail, brigau a changhennau bach, ac eto, synnech chi beth mae pobl yn ei roi allan i'w gasglu. Rydym wedi derbyn pyllau padlo, darnau o fetel, esgidiau glaw, pibellau dŵr, cardfwrdd, potiau blodau a hen ganiau dyfrio yn rhan o'r gwastraff gardd! Yn amlwg, mae mynd i'r afael â halogi o'r math hwn yn costio, felly byddwn i'n annog pob garddwr i sicrhau eu bod ond yn rhoi deunydd y gellir ei gompostio allan i'w gasglu. Cofiwch neges y corrach - Ddim o'r ddaear? Dim mynediad!"

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau casglu, ewch i'r adran ailgylchu a gwastraff ar ein gwefanhttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Pages/default.aspx.