Back
Uwchraddio goleuadau yn Ysgolion Caerdydd i arbed ynni

[image]

Mae rhaglen gwerth miliwn o bunnau i uwchraddio goleuadau mewn 22 o ysgolion yng Nghaerdydd wedi arbed gwerth 1,168,638 kWh o ynni.

Roedd y project yn cynnwys gosod goleuadau LED (Deuodau Allyrru Golau) yn yr ysgolion, sy'n fwy ecogyfeillgar na goleuadau gwynias, yn sgil y ddyfais lled-ddargludo mewn bylbiau LED sy'n allyrru golau pan fydd cerrynt yn mynd trwyddi.

Ariannwyd y gwaith gan Salix Finance Ltd sy'n cynnig cyllid Llywodraeth di-log i'r sector cyhoeddus i'w alluogi i wella ei effeithlonrwydd ynni, gostwng allyriadau carbon a sicrhau biliau ynni is. Yn dilyn llwyddiant y rhaglen hon cymeradwywyd rhoi cam ceisiadau cyllid pellach ar waith gyda Salix, a fydd yn werth hyd at £500,000.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cyng. Michael Michael: "Mae'r project arbed ynni wedi bod ar waith ers 2014 ac wedi bod yn llwyddiant mawr. Yn ogystal â'r buddion i'r amgylchedd, mae'r goleuadau newydd yn yr ysgolion hyn hefyd yn gwneud synnwyr economaidd gan fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos arbedion blynyddol o £153,371 o ganlyniad i wneud y gwaith hwn."

Dywedodd Rheolwr Rhaglen Salix Finance, Judith Britnell: "Rydyn ni wrth ein bodd gweld sefydliad yn bod mor rhagweithiol o ran hyrwyddo gwelliannau effeithlonrwydd ynni. Mae Cyngor Caerdydd yn ddim ond un enghraifft o sefydliad sector cyhoeddus sy'n cael budd gwirioneddol o'r cyllid di-log a ddarperir gan Salix. Fel y mae'n digwydd weithiau, nid yw'r cyfalaf cychwynnol sydd ei angen i wneud gwelliannau bob amser ar gael, a dyma pam ein bod ni mor barod i helpu. Mae Salix wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector cyhoeddus yng Nghymru am fwy na 10 mlynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw wedi helpu cyrff cyhoeddus Cymru i fuddsoddi mwy na £24m mewn bron 400 o brojectau a gynlluniwyd i arbed dros £74 miliwn yn ystod oes y projectau."