Back
Dathliad o Ffotograffiaeth Stryd Caerdydd yn y Lanfa

[image]

Mae arddangosfa o ffotograffiaeth stryd Caerdydd ddoe a heddiw newydd agor yn adeilad y Lanfa ym Mae Caerdydd.

Crëwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Stori Caerdydd ac ynddo ceir cipolwg o fywyd ar strydoedd Caerdydd ers dyfodiad y camera llaw yn y 1880au. Bydd modd ei weld tan 6 Gorffennaf yn Oriel y Dyfodol.

Daw'r ffotograffau sydd i'w gweld o gasgliadau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Rhyfel Ymerodrol a gan ffotograffwyr lleol. Ceir hefyd ddelweddau newydd sydd wedi eu tynnu yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa.

Dywedodd Alison Tallontire, Swyddog Arddangosfeydd Amgueddfa Stori Caerdydd: "Mae cywain y delweddau ar gyfer yr arddangosfa hon wedi bod yn siwrne o ddarganfyddiadau ac mae'r dewis terfynol yn rhoi darlun rhyfeddol o hanes y ddinas trwy lygaid ffotograffwyr."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden yng Nghyngor Caerdydd, y Cyng Peter Bradbury: "Mae'r arddangosfa yn y Lanfa yn ddathliad gwych o'n hanes cymdeithasol. Fel rwy'n deall fe alluogodd y symudiad o'r stiwdio i'r stryd tua diwedd y G19 i ffotograffwyr dynnu lluniau o'r rheiny na fyddai fel rheol yn destun lluniau, a thrwy hynny fe ddogfennwyd hanes cymdeithasol cymunedau dosbarth gweithiol am y tro cyntaf. Mae'n gasgliad gwirioneddol ryfeddol ac rwy'n annog pawb i fynd draw a chael golwg ar ein gorffennol cyfoethog."

Ffotograffiaeth Stryd Caerdydd yw'r diweddaraf mewn cyfres o arddangosfeydd gan Amgueddfa Stori Caerdydd yn adeilad y Lanfa. Bydd yr arddangosfa i'w weld tan 6 Gorffennaf yn Oriel y Dyfodol.