The essential journalist news source
Back
18.
July
2018.
Cyngor teithio ar gyfer Speedway ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf

Mae Speedway yn dychwelyd i brifddinas Cymru ddydd Sadwrn ar gyfer Grand Prix Speedway FIM Prydain Adrian Flux.

Mae'r gystadleuaeth rasio'n cynnwys reidwyr yn mynd o gwmpas trac ar feiciau modur 500cc heb unrhyw freciau, gan gyrraedd cyflymderau hyd at 70 mya. Mae'r beiciau'n defnyddio methanol sy'n danwydd ecogyfeillgar.

Disgwylir i fwy na 45,000 o bobl wylio'r ddrama. Bydd y gatiau'n agor am 3.30pm a bydd y ras gyntaf yn dechrau am 5.15pm. Er diogelwch y rhai sy'n dod, bydd nifer fach o ffyrdd yn cau yng nghanol y ddinas ar gyfer y digwyddiad hwn.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 3pm a 9.30pm:

  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr).
  • Heol Saunders o'r gyffordd â Heol Eglwys Fair.
  • Heol y Tollty ar ei hyd cyfan (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat).
  • Heol Penarth o'r gyffordd â Heol Saunders i'r fynedfa sy'n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd cyfan: Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Ar ôl y digwyddiad, gallai fod angen cau lôn neu ddal traffig yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen/Stryd y Castell ger gât 1.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau rhwng 5pm ac 8pm i hwyluso Parth Cefnogwyr Speedway ar lawnt Neuadd y Ddinas

  • Rhodfa'r Brenin Edward VIIo'r gyffordd â Neuadd y Ddinas i'r gyffordd â Boulevard de Nantes.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ar gau nes datrys y pryderon diogelwch hynny.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheiny sy'n byw yn lleol yng Nghaerdydd deithio drwy gerdded neu feicio.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r holl deithiau ceir yng Nghaerdydd yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn gyfforddus mewn 20 munud. Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny. Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau.

Trenau

Bydd system giwio ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Ewch i:
http://www.arrivatrainswales.co.uk/principalitystadium/

Mae Trenau Arriva Cymru yn cynghori holl gwsmeriaid lein Caerdydd a’r Cymoedd i ddefnyddio Gorsaf Heol-y-frenhines Caerdydd

Argymhellir i bob cwsmer brynu tocyn (dychwelyd os oes angen) o'r peiriant gwerthu tocynnau/swyddfa docynnau agosaf neu drwy ap tocynnau Trenau Arriva Cymru cyn mynd ar y trên. Bydd Timau Diogelu Refeniw yn gweithredu yn ystod y digwyddiad hwn. Fel gyda phob digwyddiad mawr yng Nghaerdydd, argymhellir i bob cwsmer gynllunio ymlaen llaw -www.arrivatrains.wales/events

Parcio a Theithio i'r Digwyddiad - Stadiwm Dinas Caerdydd

Bydd safle parcio a theithio i'r digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd (Lecwydd).

Y gost yw £8 os ydych yn archebu ymlaen llawn trwy  www.parkjockey.com/principality-stadiumneu £10 mewn arian parod ar y dydd.

Bydd staff wrth law yn y maes parcio o 9am a fydd yn agor gyda'r bws cyntaf am 9.30pm. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 10.30pm a bydd y maes parcio'n cau am 11pm.

Gallwch gyrraedd y cyfleuster parcio a theithio trwy adael yr M4 wrth Gyffordd 32. Mae'r man casglu yn Tresilian Way North, y tu cefn i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog.

Parcio i'r Digwyddiad

Gerddi Sophia- Bydd lle parcio i'r digwyddiad ar gael yng Ngerddi Sophia a bydd yn costio £15 mewn arian parod ar y dydd. Does dim angen archebu ymlaen llaw.

Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. I gyrraedd Gerddi Sophia, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 33.

Canolfan Ddinesig- Caiff mynediad i'r Ganolfan Ddinesig ei reoli, gyda mynediad ar gyfer parcio i'r digwyddiad, llwytho ac i gyrraedd meysydd parcio preifat yn unig. Ymhlith y ffyrdd bydd hyn yn effeithio arnynt mae Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd. Y gost fydd £15 y car mewn arian parod ar y dydd neu £12 os ydych yn archebu ymlaen llaw ar  https://www.parkjockey.com/principality-stadium 

Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio i Goetsis

Mae lle parcio i goetsis yn y Ganolfan Ddinesig ac mae'n costio £20 y goets mewn arian parod ar y dydd.Gallwch archebu lle parcio i goets ymlaen llaw trwy'r ddolen ganlynol -  https://www.parkjockey.com/principality-stadium 

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir i yrwyr anabl ddefnyddio Gerddi Sophia. Mae lle ychwanegol hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol. Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Bysus

Caiff bysus eu dargyfeirio o safleoedd bysus canol y ddinas. Caiff bysus sy'n cael eu dargyfeirio o safleoedd ar strydoedd sydd ar gau yn teithio naill ai i Ffordd Churchill i fynd i'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion i fynd i'r gogledd a Stryd Tudor i fynd i'r gorllewin. Ewch i wefannau'r gweithredwyr bysus amrywiol i weld newidiadau i'w gwasanaethau:

Ar gyfer gwasanaethau bysus Caerdydd, ewch i  www.cardiffbus.co.uk

Ar gyfer gwasanaethau New Adventure Travel, ewch i  https://www.natgroup.co.uk

Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i  www.stagecoachbus.com

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd parcio a theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir.

Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd:

Meysydd Parcio Heol y Gogledd

Canolfan Siopa Dewi Sant

John Lewis

Canolfan Siopa Capitol

NCP - Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion

National Express-Bydd coetsis National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel arfer.

Tacsis- Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i'r House of Fraser) yn cau am 6.00pm ac yn ailagor am 11.30pm.

Ni fydd hyn yn effeithio ar safle tacsis Lôn y Felin a fydd ar agor trwy gydol y dydd a'r nos.