The essential journalist news source
Back
6.
July
2018.
Siapwch hi - mae pobl Caerdydd yn barod i ddawnsio yn y gwyllt!

Bydd ffilm fer newydd, Boombox Caerdydd, sy'n dangos pobl Caerdydd yn dawnsio yn eu hoff fannau gwyrdd yn y ddinas, yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn y brifddinas y mis hwn.

Mae'r ffilm yn broject ar y cyd rhwng Migrations, y tîm sy'n gyfrifol am y gosodiad celfyddydolTAPEa'r profiad rhithwir In the Eyes of the Animal, a'r artist AmericanaiddEly Kim, mewn partneriaeth gyda RSPB Cymru â Chyngor Caerdydd.

Caiff y ffilm ei dangos am y tro cyntaf ar ddydd Iau 19 Gorffennaf am 7yh yn y Depo, y lleoliad bywiog yn Dumballs Road, Caerdydd.

C:\Users\c080012\Desktop\Boombox pics\IMG_3467.PNG

Crëwyd y ffilm 12 munud y llynedd ac ynddi gwelir 100 o bobl sy'n byw, gweithio neu'n hamddena yng Nghaerdydd yn dawnsio i'w hoff gerddoriaeth yn eu hoff fan gwyrdd yn y ddinas.Gydag amrywiaeth helaeth o leoliadau o Ynys Echni i'r Afon Taf a Pharc Bute, chwaeth gerddorol eang ac enghreifftiau o ddawnsio gwych, mae'r ffilm hon yn ddathliad o'n hamgylchedd naturiol a chymunedau Caerdydd.

Yn ogystal â'r 100 o sêr, rydym nawr yn estyn gwahoddiad i'r cyhoedd ddod i fwynhau'r dangosiad cyntaf hwn yn y Depo a bod ymhlith y cyntaf i weld y cynhyrchiad unigryw. Caiff ffilm arall, sy'n cynnwys cyfweliadau gyda'r sawl sy'n cymryd rhan ei dangos yn y digwyddiad hefyd, gan gynnig rhagor o wybodaeth am y gerddoriaeth a'r lleoliadau a ddewiswyd ganddynt a pham eu bod mor hoff o fannau gwyrdd Caerdydd.

C:\Users\c080012\Desktop\Boombox pics\IMG_3469.PNG

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden:"Rydym yn ffodus dros ben yng Nghaerdydd fod gennym lawer o  fannau gwyrdd yn y ddinas gyda'n parciau a mannau agored gwych ac mae Boombox Caerdydd yn ddull arloesol a chynhwysol o ddangos y llefydd hyn.

"Nid yw'n bwysig ym mhle y dewisodd pobl i ddawnsio - rwy'n gwybod bod rhai gerddi a rhandiroedd yn ymddangos yn y ffilm - yr hyn sy'n hollbwysig yw amlygu'r llefydd hynny sy'n golygu rhywbeth arbennig i'r unigolyn hwnnw.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld y ffilm.Yn ôl y si mae rhai o gymeriadau gorau Caerdydd i'w gweld yn ffilm ac rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau dod draw i ymuno â ni yn y Depo.Yn benodol, rwy'n awyddus i weld yr Arglwydd Faer gynt, y Cynghorydd Bob Derbyshire yn dangos ei ddoniau yn y ffilm.

"Mae hwn wedi bod yn broject ardderchog lle buom yn gweithio gydag RSPB Cymru a Migrations i hybu, dathlu ac annog pobl i ddod i adnabod awyr agored a bywyd gwyllt y ddinas yn well."

Dywedodd Rheolwr Project Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd RSPB Cymru, Carolyn Robertson:"Hyd yma mae 80,000 o bobl wedi cael cyfle i fwynhau byd natur a chelfyddyd drwy ein gwaith gyda Migrations ym Mharc Bute.Ein nod yw annog rhagor o bobl i gymryd wrth i'n gwaith ymchwil nodi mai dim ond un o bob wyth o blant yng Nghymru sydd gyda chysylltiad rhesymol â byd natur."

"Mae Boombox Caerdydd wedi ysbrydoli pobl o bob oedran i ystyried a mynegi eu cysylltiad â byd natur yn y mannau hynny y maent yn teimlo agosaf atynt, a hynny drwy gyfrwng dawns. O barciau i randiroedd, gerddi ffurfiol i warchodfeydd natur, mae'r ffilm hon yn ddathliad gwirioneddol o fannau gwyrdd Caerdydd a phwysigrwydd y mannau hynny i bobl yn ogystal â bywyd gwyllt." 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Migrations, Karine Décorne:"Rydym wrth ein bodd gyda'r project newydd hwn gyda RSPB Cymru.Drwy gyfrwng dawns a ffilm mae pobl Caerdydd wedi dod ynghyd i greu'r ffilm fer hon, gan ddathlu unigrywiaeth mannau gwyrddion Caerdydd.Nod Migrations yw meithrin diddordeb pobl yn y celfyddydau cyfoes rhyngwladol a chreu profiadau unigryw sy'n nodweddiadol o Gymru.Mae gweithio mewn partneriaeth gydag RSPB Cymru yn ategu ein nod o barhau i gysylltu â chynulleidfaoedd wrth ddefnyddio pŵer y celfyddydau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y gwaith o ddiogelu mannau gwyrdd a bywyd gwyllt."

 

Os oes diddordeb gennych chi mewn gwylio'r dawnsio difyr yn Boombox Caerdydd, dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaethhttps://bit.ly/2KIZDGg.I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a gynhelir gan dîm Rhoi Cartref i Fyd Natur yng Nghaerdydd ym mharciau a mannau gwyrddion y ddinas drwy gydol yr hafewch iwww.outdoorcardiff.com.

 

RSPB_logo_blacktext_cymru bi_RGB   Migrations    Cardiff Logo cmyk     T:\Projects\20161116-Giving-Nature-a-Home-in-Cardiff\Comms\Logos\Bug Life high res.jpg     T:\Projects\20161116-Giving-Nature-a-Home-in-Cardiff\Comms\Logos\Big Lottery Fund\Blue\hi_big_bi_min_blue.jpg