The essential journalist news source
Back
2.
July
2018.
Rhaglen gwrth-eithafiaeth Caerdydd i'w chyflwyno yng Nghymru, yr Almaen a Slofacia

Mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol yng Nghymru, yr Almaen a Slofacia wedi ymweld â Chaerdydd i drafod cynlluniau i gyflwyno project a dreialwyd yn gyntaf ym mhrifddinas Cymru i daclo eithafiaeth a radicaleiddio. 

Fel rhan o broject tair blynedd a ariennir gan Ewrop ar ddefnyddio'r cwricwlwm cynradd i herio eithafiaeth, mae cynghorau yng Nghymru, yr Almaen a Slofacia yn ystyried mabwysiadu dull tebyg i'r un a ddefnyddiwyd yn Dod Ynghyd Caerdydd, neu'r project GOT yn Saesneg, a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2016. 

Dyluniwyd y prosiect GOT mewn ymateb i geisiadau gan athrawon am arweiniad, adnoddau a hyfforddiant i gynnig profiad dysgu i ddysgwyr ifanc a fyddai'n herio'r wybodaeth ffug y gallent ei gweld ar-lein. 

Mae'r project, a ddatblygwyd gyda chymorth Atal ac arbenigwyr mewn hawliau dynol, yn cynnig chwe gwers ar amrywiaeth o bynciau sy'n cynnwys: ystrydebu; eithafiaeth; propaganda; llais y disgybl; parchu barn pobl eraill; a beth yw ystyr dinesydd da. 

Roedd y Gynhadledd Rhyngwladoli Addysg eleni, a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd, yn gyfle i'r Cymry, yr Almaenwyr a'r Slofaciaid gwrdd a thrafod y dull sy'n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion cynradd yn y tair gwlad. 

Yn dilyn ymgynghori â rhieni, cafodd ei dreialu mewn rhannau o Gymru, yr Almaen a Slofacia rhwng hydref 2017 a gwanwyn 2018. 

Dywedodd Jörg Baldamus o gyngor Nürnberger yn yr Almaen, sef un o'r ardaloedd peilot: "Diolch i'r cydweithio rhwng yr Almaen, Cymru a Slofacia, mae'r prosiect wedi'i gyfoethogi i gynnig amgylchedd diogel i ddisgyblion ifanc rhwng 8 ac 11 oed i drafod a herio materion sensitif yn ymwneud ag eithafiaeth mewn cymdeithas fodern. 

"Mae plant yn dysgu sut mae gwrthod dylanwadau negyddol drwy brofiadau cadarnhaol ar oedran ifanc, ac mae hyn yn cynyddu parch a goddefgarwch at eraill." 

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am gydlyniant cymunedol, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Fel y nodir yn Uchelgais Prifddinas, rwy' am i ni helpu i wneud cymunedau Caerdydd yn ddiogel, gan weithio gyda'n partneriaid i hyrwyddo cynhwysiant ym mhob rhan o'r ddinas. 

"Mae gweld awdurdodau lleol o bob rhan o Gymru a'r Almaen a Slofacia yn dod i Gaerdydd i weld sut rydym yn taclo eithafiaeth yn deyrnged arbennig i'r gwaith rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem. 

"Ond yn bwysicach fyth, mae hwn hefyd yn gyfle gwych i ni weithio gyda'r awdurdodau lleol hynny i ddatblygu a rhannu arfer gorau er mwyn herio pob ffurf ar eithafiaeth yn effeithiol."

Daeth mwy na 300 o bobl i drydedd Cynhadledd Rhyngwladoli Addysg Cyngor Caerdydd, gan gynnwys ymwelwyr o 12 o wledydd, gan gynnwys UDA a Mecsico. Cyflwynwyd 30 o weithdai ar faterion yn cynnwys herio eithafiaeth, y celfyddydau creadigol a chymhwysedd digidol gan weithwyr addysg proffesiynol o Gymru a ledled Ewrop.