The essential journalist news source
Back
29.
June
2018.
Cam yn nes at ehangu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd

Mae'r cynlluniau i ehangu ac addasu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd cam yn nes erbyn hyn gan na chodwyd unrhyw bryderon yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus na'r cyfnod hysbysiadau statudol. 

Er mwyn bodloni'r cynnydd disgwyliedig o ran galw, mae amrywiaeth o gynlluniau wedi'u cyflwyno, yn ychwanegol at gynlluniau ar wahân i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, sy'n rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion 21ainGanrif Band B y Cyngor.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd bellach yn ystyried adroddiad ar y cyfnod hysbysiadau statudol pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau nesaf, 5 Mehefin. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd yr hysbysiadau statudol eu cyhoeddi ar gyfer y saith cynllun canlynol, cymysgedd o ysgolion arbenigol a chanolfannau adnoddau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd: 

Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn

  • Cynyddu nifer y lleoedd i 198
  • Addasu adeiladau cyn-Ganolfan Ieuenctid Trelái i ddarparu tair ystafell ddosbarth ychwanegol yn ogystal â chyfleuster cymunedol 

Ysgol Greenhill

  • Codi oedran gadael y disgyblion o 16 oed i 19 oed, gan ddod yn ysgol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 19 oed
  • Cynyddu lle yn yr ysgol i gynnwys 64 o ddisgyblion 

Ysgol Arbennig Meadowbank

  • Addasu dynodiad yr ysgol i:‘anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac anawsterau dysgu cymhleth' - ar hyn o bryd mae'r ysgol wedi'i dynodi ar gyfer ‘namau iaith penodol'. 

Ysgol Gynradd Allensbank

  • Agor dosbarth ymyrraeth gynnar â lle i wyth ym mis Medi 2019, ar gyfer plant ag anghenion lleferydd ac iaith, a mynd ati fesul cam i gau'r ganolfan adnoddau arbenigol yn yr ysgol erbyn mis Gorffennaf 2020 fan bellaf 

Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair

  • Creu canolfan adnoddau arbenigol â lle i ugain o blant

Ysgol Pwll Coch

  • Agor canolfan adnoddau arbenigol, i ddarparu hyd at 10 lle i gychwyn, ond gyda'r dewis i gynyddu hyn i 20 o leoedd yn y dyfodol 

Ysgol Glantaf

  • Cynyddu nifer y lleoedd yn ei chanolfan adnoddau arbenigol i 30
  • Ehangu a gwella llety presennol y ganolfan 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry wrth sôn am y cynigion>"Mae twf sylweddol wedi bod yn nifer y bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerdydd ers 2012, gan fod twf wedi bod ym mhoblogaeth y ddinas. Mae disgwyl i'r duedd hon barhau yn ystod y pump i ddeng mlynedd nesaf, ac felly mae'n hynod o bwysig ein bod yn cyflwyno'r cynlluniau hyn, gan gyflwyno darpariaeth ychwanegol dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B yn dilyn hynny. 

"Ein nod yw annog cynifer o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol â phosibl i fynd i'w hysgol leol, ac mae mwy na 90 y cant yn defnyddio addysg prif ffrwd.Ar gyfer y rhai hynny ag anghenion mwy cymhleth, rydym wedi ariannu 103 o leoedd ysgol arbennig a chanolfan adnoddau arbenigol yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd diwethaf.

"Drwy'r cynlluniau arfaethedig hyn, a thrwy gam nesaf ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn yn ehangu llawer ar y ddarpariaeth hon." 

Gellir gweld copi o adroddiad y Cabinet ar-lein yn www.caerdydd.gov.uk 

Gallwch ddarllen mwy am y cynigion ADY ar wahân dan Fand B yma: Cynigion Band B i ddatblygu darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol 

I gael mwy o wybodaeth ar holl gynigionYsgolion yr 21ainGanrifBand B, cliciwch yma:  Rhaglen Ysgolion yr 21ainGanrif Band B