The essential journalist news source
Back
22.
June
2018.
Camerâu ychwanegol ar gyfer y Cynllun Troseddau Traffig sy’n Symud

Bydd camerâu newydd yn gorfodi tair cyffordd sgwâr melyn, lôn fysus ychwanegol a phwynt dim mynediad a bydd hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi i yrwyr sydd yn torri'r rheolau o 25 Mehefin.

Mae'r camerâu newydd a fydd yn gorfodi'r cyffyrdd sgwâr melyn wedi'u lleoli ar gyffordd ffordd gylchol Lecwydd yr A4323 i Hadfield Road a Heol Lecwydd a chyffordd ffordd gylchol Ffordd Gyswllt Ddwyreiniol y Bae yr A4232  gydag Ocean Way.

Mae'r camera newydd sy'n gorfodi'r dim pwynt mynediad ar Lindon Grove yn Nhredelerch ac mae'r lôn fysus newydd a orfodir ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Mae'r camerâu newydd hyn yn rhan o Gynllun Gorfodi Traffig sy'n Symud parhaus y cyngor i gosbi gyrwyr sydd yn torri Rheolau'r Ffordd Fawr er mwyn atal gyrwyr eraill ar y ffyrdd.

Mae hyn nawr yn dod â nifer y camerâu Troseddau Traffig sy'n Symud i 41 gydag 19 yn gorfodi lonydd bysus, 6 yn gorfodi cyffyrdd sgwâr melyn, 12 yn gorfodi troadau a waherddir a 4 yn gorfodi dim mynediad i strydoedd penodol.

Ar ben y camerâu newydd uchod, mae camerâu yn y lleoliadau canlynol:

Lonydd Bysus

  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Colchester Avenue
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Rover Way
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Beresford Road
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Rhodfa'r Orsaf
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â West Grove
  • Heol Casnewydd cyn y gyffordd â Fitzalan Place
  • Heol y Tollty i'r Dwyrain
  • Heol y Tollty i'r Gorllewin
  • Heol y Dug
  • Ffordd y Brenin i'r De-orllewin
  • Heol y Gogledd wedi Boulevard de Nantes
  • Heol Caerffili wedi'r gyffordd â Phoenix Road
  • Heol Caerffili cyn y gyffordd â Heol Pum Erw
  • Heol Caerffili cyn y gyffordd â Heol Tair Erw
  • Crwys Road
  • Plas-y-Parc
  • Heol Llantrisant
  • Southern Way
  • Ffordd Churchill i gefn y Motorpoint Arena

Cyffyrdd Sgwâr Melyn

  • Plas Dumfries / Rhodfa'r Orsaf / Heol Casnewydd
  • Heol Lecwydd / Brian Way / Stadiwm Athletau
  • Stryd Bute / Rhodfa Bute / Heol Pont-yr-Aes / Heol y Tollty
  • Stryd Adam / Ffordd Gyswllt Ganolog

Troadau Gwaharddedig

  • Dim Troi i'r Chwith - Heol Pont-yr-Aes i Faes Parcio John Lewis
  • Dim Troi i'r Chwith - Heol Birchgrove i Manor Way
  • Dim Troi i'r Chwith - Amroth Road i Heol Orllewinol y Bont-faen
  • Dim Troi i'r Chwith (ac Eithrio Bysus a Thacsis ) - Heol Eglwys Fair i Lôn y Felin
  • Dim Troi i'r Chwith (ac Eithrio Bysus a Thacsis) - Heol y Porth i Stryd Wood
  • Dim Troi i'r Dde (ac Eithrio Bysus) - Heol Casnewydd i New Road
  • Dim Troi i'r Dde - Heol y Gogledd i Heol y Coleg
  • Dim Troi i'r Dde - Colum Road i Heol Corbett Dim Troi i'r Dde - Crystal Glen i Heathwood Road
  • Dim Troi i'r Dde - Piercefield Place i Heol Casnewydd
  • Dim troi i'r Dde - Ffordd Churchill i Stryd Ogleddol Edward
  • Dim Tro Pedol - Heol Casnewydd ar y gyffordd â Wordsworth Avenue

Dim Mynediad

  • Paget Street
  • Malvern Drive i'r dwyrain
  • Malvern Drive i'r gorllewin